Mae ymdrechion ar droed i berswadio merched i sefyll etholiad ym mis Mai ar gyfer cyngor Ynysoedd Gorllewinol yr Alban lle mae’r holl aelodau’n ddynion ar hyn o bryd.
Yn yr etholiad diwethaf yn 2017, ni chafodd neb o’r saith o ferched a safodd eu hethol i’r cyngor, gyda dim ond un yn dod yn agos at ennill un o’r 31 o seddau.
Comhairle nan Eilean Siar yw’r unig gyngor yn yr Alban ac iddo enw Gaeleg yn unig, ac mae’n ymestyn dros holl ynysoedd allanol Heledd, cadarnle cryfaf yr iaith.
Dyma’r unig gyngor yn yr Alban hefyd, ac o bosib drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, lle mae ei holl aelodau dros y pum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn ddynion.
Fe fydd swyddogion y cyngor yn cynnal gweithdy yn hwyrach yn y mis i annog mwy o ferched i sefyll, ac mae 20 o ferched wedi cofrestru.
“Mae bob amser yn bryder pan fo sector mawr o’r boblogaeth heb fod yn cael ei gynrychioli,” meddai Malcolm Burr, prif weithredwr y cyngor.
Mae cyfrannau uchel o’r boblogaeth yn pleidleisio mewn etholiadau i’r cyngor, ac mae merched yn chwarae rhannau blaenllaw yn myd busnes ac ym mywyd cymunedol yr ynysoedd. Eto i gyd, ychydig iawn ohonyn nhw sy’n sefyll etholiad.
Mae’n debygol mai un rhwystr yw nad yw gweithwyr y cyngor yn cael sefyll etholiad. Merched yw mwyafrif y 2,185 o aelodau staff y cyngor, cyflogwr mwyaf yr ynysoedd. Ar y tir mawr, gall aelodau o staff cynghorau sefyll etholiad i gyngor cyfagos, ond nid yw hyn yn ymarferol ar yr ynysoedd.
Mae pryder hefyd fod yr angen i deithio pellteroedd hir o un ynys i’r llall yn peri rhwystr arall, yn enwedig i ferched sydd â chyfrifoldebau teuluol.