Mae prif siambr Senedd De Affrica wedi cael ei dinistrio’n llwyr gan dân.

Mae diffoddwyr tân yn dal i weithio ar yr adeilad yn Cape Town heddiw (dydd Llun 3 Ionawr), mwy na 24 awr ar ôl i’r tân gynnau, er bod eu niferoedd i lawr o 70 ddoe i 20 y bore yma.

Mae’r adeilad hanesyddol yn dyddio’n ôl i ddegawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y wlad yn drefedigaeth Brydeinig. Parhaodd fel canolbwynt llywodraeth y wlad trwy flynyddoedd apartheid a dyfodiad democratiaeth o dan arlywyddiaeth Nelson Mandela yn ddiweddarach.

Dywed yr heddu fod dyn a gafodd ei arestio ddoe yn cael ei holi mewn cysylltiad â’r tân, ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen llys yfory. Roedd wedi gorfod cael ei achub o’r adeilad ddoe, ond does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau.

Mae uned arbenigo o’r heddlu yn ymchwilio i achos y tân.