Mae rhai o brif elusennau cadwraeth Prydain yn galw ar Boris Johnson i wneud cyfres o addunedau blwyddyn newydd i weithredu’n gyflymach ar argyfyngau hinsawdd a byd natur.
Mewn llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr RSPB, Coed Cadw ac Ymddiriedolaethau Natur yn pwyso ar y llywodraeth am gyfres o fesurau ar frys, gan gynnwys:
- adfer mawndiroedd,
- gwahardd gwerthu mawn i drin gerddi,
- diogelu cynefinoedd morwellt,
- hybu plannu coed collddail cynhenid yn y lleoedd iawn, a
- sicrhau bod y rhwydwaith o safleoedd cadwraeth yn ddigon mawr ac yn cael ei reoli’n ddigon da.
Dywedodd Dr Darren Moorcroft, prif weithredwr Coed Cadw y bydd 2022 yn flwyddyn dyngedfennol i natur a’r hinsawdd.
“Mae angen i Brydain ddangos gwir arweiniad yn y prif gynadleddau rhyngwladol ar hinsawdd ac amrywiaeth fiolegol,” meddai.
“I atgyfnerthu hyn, mae angen i bob rhan o Brydain weithredu o ddifrif, gan osod targedau clir i adfer natur, a gweithio gyda rheolwyr tir i greu tirweddau cyfoethog mewn coed ar gyfer pobl, natur a charbon.”
Yr un oedd neges Beccy Speight, prif weithredwr yr RSPB:
“Mae arnom angen gwarantau newydd gan y llywodraeth i weithredu ar yr ymrwymiadau pwysig i fyd natur a gafodd eu sicrhau yn Cop26 – er mwyn gwarchod ein byd natur ac adfer ein tirwedd ffermio fel ei fod yn helpu mynd i’r afael â’r argyfyngau ecolegol a hinsawdd.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain eu bod wedi “ymrwymo’n llwyr” i fynd i’r afael â newid hinsawdd.