Mae timau achub yn chwilio trwy weddillion tân gwyllt anferth yn Colorado am ddau o bobl sy’n dal ar goll.

Mae ymchwiliadau’n parhau i achos y tân a ledaenodd drwy o leiaf 9.4 milltir sgwâr, gan ddinistrio bron i 1,000 o dai ac adeiladau eraill mewn maestrefi rhwng y brifddinas Denver a Boulder.

Cychwynnodd y tân ddydd Iau, yn anarferol o hwyr yn y flwyddyn ar ôl hydref hynod o sych a gaeaf heb fawr ddim eira. Mae’n ymddangos fod yr amodau hyn, ynghyd â gwyntoedd cryfion, wedi cyflymu lledaeniad y tân.

Nid yw’r awdurdodau’n diystyru’r posibilrwydd y gallai’r tân fod wedi cael ei gynnau’n fwriadol.

Er bod rhai o’r tai a gafodd eu llosgi i’r llawr yn dal i fudlosgi, mae eiria a rhew dros y penwythnos wedi diffodd y rhan fwyaf o’r tân bellach.