Mae Twitter wedi gwahardd cyfrif aelod Gweriniaethol o Gyngres yr Unol Daleithiau am fynd yn groes i bolisi’r cyfrwng wrth ledaenu gwybodaeth gamarweiniol yn barhaus am Covid-19.

Mae Marjorie Taylor Greene yn un o gynrychiolwyr talaith Georgia ac mae’n adnabyddus am y modd y mae’n arddel daliadau a theorïau cynllwyn y cwlt QAnon. Mae hi’n gyson wedi trydar daliadau hiliol, cefnogi neges ddi-sail QAnon bod Donald Trump wedi colli ar gam yn yr etholiad yn 2020 ac wedi galw am drais yn erbyn gwleidyddion y Democratiaid, gan gynnwys llefarydd y ty, Nancy Pelosi.

Mae hi wedi cael ei disgrifio gan arweinydd y Gweriniaethwyr yn y Senedd, Mitch McConnell, fel ‘canser’ yn y Blaid Weriniaethol.

Mae Twitter yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i adnabod trydariadau am y coronafeirws sy’n ddigon camarweiniol i beri niwed i bobl