Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 14 o farwolaethau yn eu ffigurau Covid-19 dyddiol heddiw (dydd Sul, Ionawr 2).
Mae’n golygu eu bod nhw wedi cyhoeddi cyfanswm o 6,581 o farwolaethau ers dechrau’r pandemig.
Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi 14,036 o achosion newydd.
Mae hynny’n golygu eu bod nhw wedi cyhoeddi cyfanswm o 646,159 o achosion ers dechrau’r pandemig.
Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn uwch o lawer o ganlyniad i’r ffordd y caiff achosion a marwolaethau eu cofnodi a’u hadrodd.