Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am stormydd yn y de-ddwyrain.

Mae rhybudd yn ei le rhwng 12 o’r gloch a 6 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Ionawr 2) yn ardaloedd Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy.

Mae’n bosib y gallai achosi llifogydd ac i gyflenwadau trydan gael eu colli mewn sawl ardal.