Mae dros 100 o arbenigwyr yn galw am argymell defnyddio cyffur yng Nghymru a Lloegr i drin osteoporosis.

Dyma fyddai’r cyffur cyntaf o’i fath ers degawdau.

Mae’r arbenigwyr yn galw ar Nice – Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal – i wneud tro pedol i beidio ag argymell Romosozumab ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol.

Mae e eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhannau helaeth o Ewrop, ac mae’n helpu gyda datblygiad esgyrn ac yn lleihau’r risg y bydd esgyrn yn torri.

Mae eu llythyr wedi’i gyhoeddi yn y Sunday Times, ac maen nhw’n tynnu sylw at y cyflwr fel “un o’r bygythiadau mwyaf i fyw’n dda yn nes ymlaen mewn bywyd”.

Yn ôl yr arbenigwyr, bydd dros hanner y menywod dros 50 oed yn torri asgwrn o ganlyniad i’r cyflwr, gan achosi poen ac anableddau tymor hir.

Mae’r Gymdeithas Frenhinol ar gyfer Osteoporosis wedi cefnogi’r llythyr hefyd, gan annog yr awdurdodau i gydnabod difrifoldeb y cyflwr sy’n gallu arwain at farwolaeth o ganlyniad i gyflyrau difrifol eraill megis canser a chlefyd y siwgr.

Yn ôl y gymdeithas, mae penderfyniad Nice yn seiliedig ar “gamddealltwriaethau technegol”.

Mae penderfyniad Nice dan ystyriaeth, ac mae disgwyl gwrandawiad pellach yn y misoedd i ddod, ond does ganddyn nhw mo’r hawl i drwyddedu cyffuriau newydd gan mai cynghori yn unig yw eu rôl.