Mae dyn yn ei 50au wedi’i gludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Llyn Celyn yn y Bala.
Fe adawodd ei Jaguar F-Pace ffordd A4212 am oddeutu 12.15 brynhawn heddiw (dydd Sul, Ionawr 2).
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn Stoke.
Mae lle i gredu bod y car wedi pasio sawl cerbyd arall cyn y gwrthdrawiad, ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad â thystion.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw o’r Bala a Cherrigydrudion.
Mae’r ffordd ynghau wrth i’r ymchwiliad barhau.