Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio fideo fel rhan o’u neges Blwyddyn Newydd, yn gwahodd pobol “i ymuno â’r frwydr dros yr iaith”.
Mae’r fideo gan Cadi Dafydd Jones yn cyd-fynd â gweledigaeth y mudiad yn Mwy na Miliwn – Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb, ac yn dilyn hanes pedwar o bobol – Elinor, Rhydian, Siân a Sarah – wrth iddyn nhw geisio byw eu bywydau yn Gymraeg.
Mae Elinor yn fam sengl ac yn ei chael hi’n anodd fforddio gwersi Cymraeg a dod o hyd i ofodau Cymraeg.
Yr argyfwng tai a diffyg prentisiaethau yw prif rwystrau Rhydian, Siân a Sarah, ac mae hynny’n eu gorfodi nhw i adael eu cymunedau gan fynd â’r iaith gyda nhw.
Yn ôl Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae’r pedwar yn enghreifftiau o’r math o bobol sydd “yn dyheu naill ai am gael dysgu Cymraeg neu fwynhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd”.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un o’r bobol hyn ac i bawb sy’n byw yng Nghymru, yn ddi-eithriad,” meddai.
“Rydyn ni eisiau gweld pawb yn gallu byw yn Gymraeg.”
Galw am fabwysiadu gweledigaeth
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae mabwysiadu’r weledigaeth yn golygu “dyfnhau’r agenda bresennol ac ehangu ar yr hyn sydd yn y cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru”.
“Mae angen canolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r iaith yn ein cymunedau, ein gweithleoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig,” meddai Mabli Siriol Jones wedyn.
“Gwyddom fod rhwystrau yn wynebu pobl rhag cael mynediad at yr iaith — yn rhwystrau daearyddol, economaidd, neu ddosbarth cymdeithasol — a bod rhain yn effeithio rhai grwpiau fel cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw yn enwedig.
“Nid oes strwythurau na pholisïau ar waith i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon i ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Mae hyn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo — mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.”
‘Ochr arall y geiniog’
“Diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yw ochr arall y geiniog hon,” meddai.
“Dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol felly mae nifer o bobl o dan yr argraff bod cynnal gofodau — o gymunedau daearyddol, i weithleoedd i ddigwyddiadau — uniaith Gymraeg yn annerbyniol.
“Mae sicrhau mynediad gwirioneddol i’r iaith i bawb yn hanfodol i’r gwaith o gynyddu nifer y gofodau lle mai’r Gymraeg yw’r iaith arferol.
“O sicrhau cartref i bawb yn eu cymuned i gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bawb, o greu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i gynyddu presenoldeb yr iaith ar y we, ac o greu mil o ofodau Cymraeg i fuddsoddi mewn swyddi Cymraeg da ym mhob rhan o’r wlad — dyma rai o’r pethau rydyn ni’n galw amdanyn nhw fel rhan o ‘Mwy na Miliwn’.
“Mae gan y Llywodraeth y grym i wireddu’r weledigaeth hanfodol hon, ac mi fyddwn ni’n gweithio dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau eu bod nhw’n gwneud hynny.
“Ar ddechrau blwyddyn newydd hoffwn i wahodd pobol Cymru, waeth beth fo gallu eu Cymraeg, i ymuno â ni yn yr ymgyrch dros yr iaith a gwireddu gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn’.
“Byddwch yn rhan o lywio dyfodol Cymru drwy ymaelodi â Chymdeithas yr Iaith heddiw.”