Mae’r DUP yn galw am ymchwiliad ac yn cyhuddo Sinn Fein o “amharchu” Brenhines Loegr drwy wrthod plannu coeden i ddathlu ei jiwbilî platinwm.

Conor Murphy, y Gweinidog Cyllid o blaid Sinn Fein, sydd dan y lach am “anoddefgarwch a diffyg parch”.

Mae’r DUP wedi ysgrifennu at Gomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon, sy’n adolygu cyfreithiau cydraddoldeb.

Dim ond ar gyfer digwyddiadau rhyngwladol y gall coed gael eu plannu neu gofebau gael eu gosod yn Stormont, yn ôl polisi swyddogol.

Roedd Joanne Bunting, Aelod DUP o’r Senedd, wedi ceisio caniatâd i blannu coeden fel rhan o brosiect yn dathlu’r Jiwbilî.

Ond cafodd y rhesymau am wrthod y cais eu hamlinellu mewn llythyr gan Conor Murphy, gan ddweud bod yr achlysuron sy’n deilwng o blannu coed neu godi cofeb o fath gwahanol yn cynnwys Diwrnod AIDS y Byd, Diwrnod Llafur y Byd neu Ddiwrnod Cofio’r Holocost.

Ond fe ddymunodd yn dda iddi ar gyfer y dathliadau.

Achosion tebyg

Nid dyma’r tro cyntaf i Sinn Fein gythruddo unoliaethwyr ar drothwy dathliadau.

Y llynedd, fe wnaethon nhw atal cynnig gan Gomisiwn y Cynulliad i godi carreg goffa yn Stormont i nodi canmlwyddiant Gogledd Iwerddon fel gwlad.

Mae gan y comisiwn gyfrifoldeb am adeiladau seneddol, ond yr Adran Gyllid sy’n gyfrifol am dir yr ystad.

Roedd Sinn Fein yn cyhuddo’r DUP bryd hynny o fethu ag ymgynghori â’r pleidiau eraill.

Cafodd cais arall gan y DUP i blannu coeden rhosynnod i nodi’r canmlwyddiant ei wrthod.

Yn Neuadd Dinas Belffast fis Hydref, roedd ffrae pan wrthododd Sinn Fein gynnig i oleuo’r adeilad.

Dywedodd Ciaran Beattie, arweinydd Sinn Fein ar y Cyngor, nad oedd rhannu Iwerddon “yn ddim byd i’w ddathlu”, ac y byddai’n cael effaith negyddol ar y ddinas.

‘Sinn Fein ddim eisiau unoliaethwr’

Mae Joanne Bunting wedi beirniadu’r penderfyniad i wrthod ei chynnig, gan alw ar y Comisiwn Cydraddoldeb i ymyrryd yn y ffrae.

Mae’r DUP wedi tynnu sylw at y ffaith fod Sammy Wilson, y cyn-weinidog cyllid, wedi rhoi caniatâd i blannu coeden yn Stormont adeg dathlu 125 mlynedd ers sefydlu’r GAA, y Gymdeithas Campau Gwyddelig, yn 2009.

“Mae hyn yn brawf pellach nad yw Sinn Fein eisiau unoliaethwr ar hyd y lle,” meddai.

“Maen nhw’n mynnu goddefgarwch a pharch ond yn dangos dim byd ond diffyg goddefgarwch llwyr i nodi bodolaeth Gogledd Iwerddon.”

Ychwanegodd fod Stormont yn “perthyn i’r bobol, nid i feddylfryd gwrth-unoliaethol Sinn Fein”, gan gyhuddo’r gweinidog o “ddiffyg moesau”.