Mae’r Aifft yn galw am gadw at y cadoediad sydd yn ei le rhwng Israel a Phalesteina ar Lain Gaza ers mis Mai y llynedd.

Daw’r alwad ddiwrnod ar ôl i Hamas saethu rocedi i mewn i Fôr y Canoldir o ganol Israel, gydag Israel yn ymateb drwy gynnal cyrchoedd awyr ar safleoedd milwrol yn Gaza.

Yn ôl Israel, roedden nhw’n targedu canolfan sy’n creu rocedi a safleoedd milwrol eraill Hamas ar Lain Gaza fel ymateb i’r ymosodiadau blaenorol arnyn nhw.

Doedd neb wedi’i anafu, yn ôl adroddiadau.

“Mae’r cyfrifoldeb yn nwylo’r sawl sy’n anelu taflegrau at Israel,” meddai’r prif weinidog Naftali Bennett.

Cefndir

Ddydd Mercher (Rhagfyr 29, 2021), saethodd gwrthryfelwyr Palesteinaidd at gontractiwr o Israel oedd yn gweithio ar ffens ar y ffin, ac fe ymatebodd Israel drwy saethu o dancer ger safleoedd milwrol.

Dyma’r gwrthdaro cyntaf ers rhai misoedd.

Galwodd yr Aifft ar Hamas a gwrthryfelwyr eraill yn Gaza i roi’r gorau i “bryfocio” Israel, ac ar Israel i weithredu ar frys ar gamau oedd wedi’u cytuno fel rhan o gadoediad bregus a gafodd ei sefydlu wedi’r rhyfel 11 diwrnod fis Mai y llynedd.

Ond mae Hamas yn mynnu nad yw Israel wedi cymryd camau difrifol i leihau’r blocâd yn Gaza ar ôl i Hamas gipio ardal arfordirol yn 2007.

Yn y cyfamser, mae gwrthryfelwyr eraill yn bygwth cymryd camau milwrol yn erbyn Israel pe bai carcharor o Balesteina sy’n ymprydio yn marw.

Mae Hisham Abu Hawash wedi’i gadw dan glo gan Israel heb ei gyhuddo, ac wedi bod yn ymprydio ers 130 o ddiwrnodau.

Yn ôl Israel, mae’r arfer o gadw carcharorion yn y ddalfa heb gyhuddiadau’n angenrheidiol er mwyn cadw pobol beryglus dan glo heb fod angen datgelu cudd-wybodaeth a allai beryglu pobol eraill.

Ond mae Palesteina a grwpiau hawliau’n feirniadol o’r dull.