Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, yn dweud y dylai pob cyn-brif weinidog gael ei urddo’n farchog.

Daw hyn ar ôl i Tony Blair, y cyn-brif weinidog Llafur oedd wrth y llyw am ddegawd rhwng 1997 a 2007, ddod yn ‘Syr’ yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines Loegr eleni.

Fe dderbyniodd yr anrhydedd hynaf ac uchaf oedd ar gael i’w rhoi iddo, ac mae’n ymuno â John Major a nifer o gyn-brif weinidogion eraill y gorffennol wrth gael ei urddo’n farchog.

Byddai awgrym y Llefarydd yn golygu y byddai Boris Johnson, prif weinidog presennol y Deyrnas Unedig, yn dod yn ‘Syr’ ar ôl gadael ei swydd.

Yn ôl Syr Lindsay Hoyle, mae bod yn brif weinidog yn “un o’r swyddi anoddaf yn y byd”.

“Waeth bynnag beth mae pobol yn ei feddwl, mae’n un o’r swyddi anoddaf yn y byd, a dw i’n meddwl ei fod yn barchus a’r peth cywir i’w wneud, p’un ai Tony Blair neu David Cameron yw e,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Dylen nhw i gyd gael cynnig eu hurddo’n farchog pan fyddan nhw’n gorffen fel prif weinidog.

“Byddwn i’n dweud, os ydych chi wedi bod yn brif weinidog ar y wlad, dw i yn credu y dylai’r wlad gydnabod y gwasanaeth maen nhw wedi’i roi.

“Nid gwleidyddiaeth sy’n bwysig, ond y swydd maen nhw wedi ei dal yn y wlad hon: y swydd a’r parch rydyn ni’n dangos i’r bobol hynny sydd wedi arwain y wlad hon sy’n bwysig.

“A dw i’n credu ei bod yn deyrnged briodol i’r swydd maen nhw wedi’i gwneud.”

Syr Tony Blair

Roedd Tony Blair ymhlith tri o bobol sydd wedi derbyn yr anrhydedd o gael eu penodi i Urdd y Gardas Aur, ynghyd â’r Farwnes Valerie Amos a Duges Cernyw.

Rhodd gan Frenhines Loegr yw’r anrhydedd benodol hon, a hynny heb gyngor y prif weinidog presennol.

Maen nhw fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd San Siôr, Ebrill 23, ond gall y cyhoeddiad ddod ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Anrhydedd am oes yw hi, oni bai bod y sawl sy’n ei derbyn yn pechu’r sawl sy’n ei rhoi.

Cafodd yr anrhydedd ei sefydlu yn 1348 gan Edward III, ac mae’n cael ei rhoi am wasanaeth cyhoeddus rhagorol a champau penodol.

Roedd Syr Tony Blair wrth y llyw adeg y rhyfeloedd yn Irac ac Affganistan, ac mae e wedi bod dan y lach am y cyfnod hwnnw yn hanes y Deyrnas Unedig fyth ers hynny.