Mae Cymru wedi profi’r Flwyddyn Newydd gynhesaf erioed wrth i’r tymheredd godi uwchben 16C.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod y tymheredd wedi cynyddu dros nos i gyrraedd 16.5C yn Y Bala.

Dywedodd llefarydd: “Mae hyn yn gwneud Nos Galan 2021 y cynhesaf ar gofnod, o bosib.

“Dros nos y cofnodwyd y tymheredd hwnnw, ond rydym yn defnyddio’r cyfnod 09:00-0900 ar gyfer cofnodion hanesyddol.”

Erbyn 11.30am ddydd Sadwrn, roedd tymheredd o 15.2C wedi’i nodi ym Maes Awyr Penarlâg yn y Gogledd – dim ond ychydig yn is na’r record Prydeinig ar gyfer Dydd Calan, sef 15.6C a osodwyd yn Bude, Cernyw, yn 1916.

Tywydd oer i ddod

Dywedodd rhagolygydd y Swyddfa Dywydd, Dan Stroud, y dylai pobl “wneud y gorau o’r cynhesrwydd oherwydd bod newid ar y ffordd wrth i ni fynd i ddechrau’r wythnos nesaf”.

Mae disgwyl i dymheredd y dydd blymio erbyn dydd Mawrth i 7C yng Nghaerdydd, a chyn ised â 3C yng Nghaeredin.

Dywedodd: “Rydyn ni’n mynd i golli’r llif aer is-drofannol a’i ddisodli gyda rhai pethau o’r gogledd.

“Bydd y tymheredd yn bendant yn mynd yn ôl i’r hyn sy’n gyffredin, gyda rhew yn dychwelyd a rhywfaint o eira yn y rhagolygon ar draws ardaloedd gogledd Prydain ac ar draws y bryniau.”

Mae’r dechrau cynnes i’r flwyddyn newydd yn dilyn mis Rhagfyr mwyn.

Dywedodd rhagolygydd y Swyddfa Dywydd, Craig Snell, fod y tymheredd cyfartalog ym mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr fel arfer tua 7C neu 8C – gyda’r tywydd cynhesach eleni oherwydd gwynt o’r de-orllewin yn gwneud ei ffordd ar draws y wlad.

Mae tymheredd uwch fel arfer yn beth lleol, ond mae “digon o lefydd” wedi gweld lefelau uchel o 15C dros fis Rhagfyr, meddai.