Gellid ystyried brechlynnau coronafeirws “ar sail dymhorol” oherwydd amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, meddai prif swyddog meddygol Cymru.
Dywedodd Dr Frank Atherton fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn “anodd iawn”.
Dywedodd Dr Atherton: “Bydd coronafeirws yn parhau i esblygu, a’r hyn y mae angen i ni ei wneud yn fyd-eang, ac yma yn y Deyrnas Unedig, yw sicrhau bod ein gwyliadwriaeth yn dda, y gallwn adnabod amrywiolion newydd wrth iddynt godi, fel y gwnaethom gyda’r amrywiolyn Omicron.
“Pan fydd amrywiolion newydd yn codi mae angen eu hasesu’n gyflym iawn o ran pa mor drosglwyddadwy a pha mor beryglus ydyn nhw, faint o niwed maen nhw’n ei achosi i bobl.
“Felly rwy’n credu y bydd hynny’n dipyn o normal newydd i ni yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru – mae’n debyg y bydd angen i ni edrych ar frechu efallai ar sail dymhorol, yn yr un modd ag yr ydym yn ei wneud gyda hwb blynyddol i’r ffliw, ond mae hynny ychydig yn ddamcaniaethol.
“Mae angen i ni fynd drwy’r don hon o haint a gweld beth ddaw yn y dyfodol, ond rwy’n hyderus y gallwn ddod i delerau â’r feirws hwn – feirws nad yw byth yn mynd i fynd i ffwrdd yn llwyr, ond y gallwn ddod i fyw gydag ef.”
Anrhydedd Flwyddyn Newydd
Mae Dr Frank Atherton wedi cael ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines Lloegr, a soniodd fod hynny yn “fraint fawr”.
Ychwanegodd fod ei anrhydedd yn gydnabyddiaeth o “ymdrech tîm” yr holl weithwyr iechyd proffesiynol i gadw pobl yn ddiogel.
Yn sgil ei anrhydedd, wrth sôn wrth wasanaeth newyddion PA am y gwahanol bolisïau yn y gwahanol wledydd yn y Deyrnas Unedig mewn perthynas â’r pendemig, dywedodd Dr Atherton: “Yn amlwg, mae’r ffyrdd o drosglwyddo wedi digwydd ar wahanol adegau, mewn gwahanol wledydd, ac mae gwahanol wledydd wedi gwneud eu hymatebion eu hunain.
“Yng Nghymru, mae gweinidogion wedi tueddu i fod yn fwy gofalus bryd hynny mewn rhai gwledydd eraill ac mae hynny wedi cael ei groesawu’n gyffredinol gan y boblogaeth yma – mae ein harolygon cyhoeddus yn awgrymu bod pobl yn gyffredinol yn teimlo bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith rhesymol o’u cadw’n ddiogel.
“Mae rhywfaint o amrywiad yn anochel, ond lle gallwn gael atebion cyffredin sy’n un o gryfderau’r system hefyd.”
Ychwanegodd: “Rwyf bob amser wedi teimlo drwy gydol y pandemig hwn fod cryfder mawr pan fydd gennym benderfyniadau ar y cyd ac mae gennym broses gyffredin.
“Rydym wedi ceisio, fy nghyd-CMOs a minnau, rydym bob amser wedi ceisio sicrhau bod hynny’n digwydd i’r graddau mwyaf posibl.”