Mae’r cyfarwyddwr teledu John Geraint wedi bod yn siarad â golwg360 am gyfarwyddo darllediad o wasanaeth Cyngor yr Eglwysi pan ddaeth Desmond Tutu, Archesgob Cape Town, i Gymru yn 1986.

Cafodd yr arweinydd crefyddol wahoddiad i annerch Gŵyl Teulu Duw, lle bu’n pregethu am oblygiadau byd-eang bod yn aelod o’r teulu hwnnw.

Mae nifer o bobol wedi bod yn rhannu eu hatgofion o’r ymweliad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys y DJ a chyflwynydd radio Huw Stephens a’r gwleidydd William Powell.

Mae eraill wedi bod yn cofio’i ymddangosiad yng Ngŵyl y Gelli yn 2009, ochr yn ochr â Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint ar y pryd.

Yn dilyn ei farwolaeth ddechrau’r wythnos, rhoddodd John Geraint deyrnged i un o’r ffigurau amlycaf yn hanes De Affrica.

Ac wrth siarad â golwg360 ar drothwy’r angladd yfory (dydd Sadwrn, Ionawr 1), fe fu’n trafod dull arloesol o greu darllediadau ‘gefn-wrth-gefn’ ar gyfer y BBC ac S4C 35 o flynyddoedd yn ôl – dull sydd wedi dod yn fwy poblogaidd erbyn hyn.

“Rwy’n cofio bod Cyngor yr Eglwysi wedi llunio gwasanaeth dwyieithog, ac roedd yn dipyn o her i olygu fersiwn i S4C ac un arall i rwydwaith y BBC,” meddai.

“Hynny yw, rhaglen ‘gefn-wrth-gefn’ ychydig cyn i hynny ddod yn arfer gyda drama!

“Roeddwn i lawer mwy cysyrus yn cyfarwyddo un camera (ar gyfer ffilmiau dogfen) na chyfarwyddo nifer o gamerâu ar yr un pryd o’r ‘Scanner’.

“Ond roeddwn i wedi derbyn hyfforddiant gan y diweddar Huw Brian Williams, un o’r cyfarwyddwyr aml-gamera gorau erioed yn hanes y BBC.

“Ac felly dyma fi’n ceisio efelychu steil Huw Brian pan wnaeth e gynllunio a chyfarwyddo’n gaboledig ymweliad y Pab i Gymru yn 1982.”

Uchafbwynt yr ymweliad hwnnw oedd ei ymddangosiad yng Nghaerdydd ar Fehefin 2, pan wnaeth e gyfarch y dorf gan ddweud “Bendith Duw arnoch” a chael bonllef o gymeradwyaeth yn ôl.

Y prynhawn hwnnw, roedd y Pab wedi derbyn rhyddfraint dinas Caerdydd, cyn teithio yn ei gerbyd enwog i Barc Ninian, cartref Clwb Pêl-droed Caerdydd ar y pryd.

Yno, fe alwodd ar bobol ifanc yn y dorf o 33,000 i weddïo.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd Desmond Tutu ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Bywyd

Bu farw Desmond Tutu ar Ddydd San Steffan yn 90 oed.

Cafodd ei eni ar Hydref 7, 1931, yn Klerksdorp i’r gorllewin o ddinas Johannesburg ac fe fu’n athro cyn mynd i goleg diwynyddol yn 1958.

Cafodd ei dderbyn i’r eglwys yn swyddogol yn 1961, a’i benodi’n gaplan ym Mhrifysgol Fort Hare chwe blynedd yn ddiweddarach.

Symudodd i Lesotho wedyn ac i’r Deyrnas Unedig, cyn mynd adref yn 1975 a dod yn Esgob Lesotho, yn gadeirydd Cyngor Eglwysi De Affrica ac yna’n Esgob Anglicanaidd du cyntaf Johannesburg.

Daeth yn Archesgob du cyntaf Cape Town y flwyddyn ganlynol, gan dderbyn menywod a dynion hoyw yn offeiriaid.

Cafodd ei arestio yn 1980 am ei ran mewn protest, ac fe fu’n rhaid iddo ildio’i basbort cyn ei gael e’n ôl er mwyn teithio i’r Unol Daleithiau ac Ewrop i gyfarfod ag arweinwyr crefyddol a gwleidyddol.

Fe alwodd am sancsiynau rhyngwladol yn erbyn De Affrica yn sgil aparteid, ac i ddod â’r cyfnod hwnnw yn hanes ei wlad i ben.

Roedd yn Archesgob Cape Town, yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel yn 1984 am ei ran yn dymchwel aparteid, ac yn ymgyrchydd tros gyfiawnder hiliol a hawliau LHDT (“Fyddwn i ddim yn addoli Duw sy’n homoffobig”, meddai rywdro, gan ychwanegu y byddai’n well ganddo “fynd i rywle arall” nag i “nefoedd homoffobig”).

Mae’n cael ei ystyried yn gydwybod moesol ei genedl yn sgil ei waith diflino’n ceisio dirwyn cyfnod cythryblus yn hanes De Affrica a ddaeth i ben yn y pen draw yn 1994.

Fe oedd esgob du cyntaf Johannesburg, ac fe ddefnyddiodd ei bulpud yn y rôl honno ac fel Archesgob Cape Town, yn ogystal â llwyfannau’r byd, i ledaenu ei neges o oddefgarwch yn Ne Affica ac ar draws y byd.

Fel Nelson Mandela, arlywydd du cyntaf De Affrica, roedd e wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol gwell a mwy cydradd i’w genedl.

Pan ddaeth Mandela yn arlywydd yn 1994, cafodd Tutu ei benodi’n gadeirydd comisiwn a aeth i’r afael ag erchyllterau aparteid, a fe wnaeth fachu’r ymadrodd “Rainbow Nation” sy’n rhan o hanes diweddar De Affrica.

Pan oedd Mandela wedi dod allan o’r carchar bedair blynedd ynghynt, roedd e wedi treulio’i noson gyntaf yn rhydd yng nghartref Tutu.

Bu farw’n dawel yn dilyn sawl blwyddyn o salwch a nifer o ymweliadau â’r ysbyty ers 2015, a hynny ar ôl cael diagnosis o ganser y prostad yn 1997.

Mae’n gadael gwraig a phedwar o blant.

Yr angladd a theyrngedau

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i Desmond Tutu ers ei farwolaeth.

Fe fu ei arch yn Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd St George yn Cape Town dros yr wythnos ddiwethaf.

Ar risiau’r Eglwys Gadeiriol, dywedodd y Parchedig Michael Lapsley ei fod yn “gawr moesol” ar ôl i’r arch fynd i mewn yn seiniau cerddoriaeth a gweddi.

Wrth i’r arch gyrraedd, roedd offeiriaid du a gwyn, hen ac ifanc, gwrywaidd a benywaidd yno i’w dderbyn, ynghyd ag aelodau’r teulu.

Fe fu pobol yn mynd i mewn i’r eglwys gadeiriol wedyn i weld yr arch ac i gynnau cannwyll er cof amdano.

Arch syml yr olwg sydd ganddo, ac yntau’n dweud nad oedd e eisiau sioe fawr nac i arian mawr gael ei wario ar yr achlysur.

Aeth mwy na 2,000 i dalu teyrnged iddo ar y diwrnod cyntaf.

Bydd offeren er cof amdano yfory, cyn iddo gael ei amlosgi a’i weddillion yn cael eu rhoi y tu fewn i’r eglwys gadeiriol.

Dywedodd y Parchedig Lapsley fod Desmond Tutu yn “hybwr dewr o gydraddoldeb i bawb” a’i fod e “wedi trawsnewid yr eglwys” wrth groesawu menywod yn offeiriaid.

Ychwanegodd ei fod yn “arwr” i’r gymuned LHDT ledled y byd.

Dywedodd un o’r menywod cyntaf i gael eu derbyn i’r eglwys, y Parchedig Wilma Jakobsen, fod Desmond Tutu wedi cyflwyno newidiadau radical a bod “y diolch am y cyfan oll i arweinyddiaeth yr Archesgob Tutu”.

Dywedodd y Parchedig Maria Claassen ei fod yn “ddyn gostyngedig iawn” ac y “gallech chi deimlo nerth ei bresenoldeb ac o’i argyhoeddiad” o fod yn ei gwmni.

“Fe wnaeth ein hysbrydoli ni, a nawr rydym yn dathlu ei fywyd,” meddai wedyn.