Bydd rheolau Brexit newydd yn dod i rym ar Ddydd Calan (Ionawr 1) ar gyfer cwmnïau sy’n anfon nwyddau i wledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn hyn, roedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn galluogi cwmnïau i oedi am hyd at 175 o ddiwrnodau cyn anfon datganiadau cyllid ond o hyn ymlaen, bydd yr oedi hwnnw’n cael ei ddileu.

Bydd tynhau hefyd ar reolau’n ymwneud â dogfennau sy’n nodi o ba wlad y daw nwyddau, a bydd angen gwneud datganiadau wrth i’r nwyddau gyrraedd, a bydd y rheolau’n cael eu tynhau eto.

Mae hyn oll yn golygu y bydd angen i wiriadau a ffurflenni gael eu cwlbhau o leiaf bedair awr cyn i nwyddau gyrraedd, neu mae perygl iddyn nhw gael eu dychwelyd wrth y ffin.

Yn ôl y rheolau, mae’n rhaid bod gan gynnyrch anifeiliaid a phlanhigion dystysgrif yn datgan gwreiddiau, ond does dim angen eu cyflwyno ar gyfer gwiriadau estynedig fel sy’n wir am nwyddau sy’n cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd a Gogledd Iwerddon o Brydain.

O Ionawr 1, mae’n rhaid i yrwyr ddatgan eu nwyddau a’u gwreiddiau, ond mae disgwyl ychydig iawn o wiriadau cyn yr haf.

O fis Gorffennaf, bydd gwiriadau llymach ar nwyddau, yn debyg i’r rheiny sydd eisoes yn eu lle ar gyfer bwyd sy’n cael ei allforio o Brydain i’r Undeb Ewropeaidd – gwirio dogfennau electronig cyn dechrau’r daith, gwirio’r sêl adnabod cyn gadael a gwiriad dynol olaf wrth i’r nwyddau gyrraedd, ynghyd â thystysgrif gwreiddiau, gan gynnwys tystysgrif cyflenwyr os bydd angen.

Bydd y gwiriadau hyn yn berthnasol i gig, llaeth, wyau a mêl fydd yn gofyn am dystysgrif yn nodi mai cynnyrch anfeiliaid ydyn nhw, a bydd angen tystysgrif debyg ar gyfer cynnyrch planhigion fel ffrwythau, llysiau a blodau.

Bydd mannau’n cael eu sefydlu ger ffiniau i wneud y gwiriadau hyn, a allai olygu llawer mwy o oedi i deithwyr fel sydd wedi’i weld dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i M&S gwyno y bu’n rhaid iddyn nhw gyflogi milfeddygon i wirio cynnyrch sy’n symud rhwng Prydain ac Iwerddon o ganlyniad i Brotocol Gogledd Iwerddon.

O Fedi 1, bydd yr un gwiriadau’n cael eu cyflwyno ar gyfer cynnyrch llaeth sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd ac o Dachwedd 1, bydd gwiriadau ar gyfer yr holl gynnyrch sy’n weddill, gan gynnwys pysgod.

Wrth i’r rheolau hyn gael eu cyflwyno, mae disgwyl i’r Adran Gyllid a Thollau gyflwyno mwy o ddirwyon.