Mae lluoedd Israel wedi saethu dyn o Balesteina yn farw ar ôl iddo redeg tuag at fws yn cario cyllell yn y Lan Orllewinol.

Mae lle i gredu bod Amir Atef Reyan wedi dod allan o gar ger cyffordd a mynd tuag at griw o Israeliaid a milwyr oedd yn aros am fws.

Cafodd ei saethu cyn iddo allu eu cyrraedd, a daeth cadarnhad o’i farwolaeth gan Weinyddiaeth Iechyd Palesteina yn ddiweddarach.

Mae deunydd sydd wedi’i gyhoeddi ar y we yn dangos y dyn yn gorwedd ar lawr cyn cael ei gludo oddi yno mewn ambiwlans, ac mae llun o’r gyllell wedi’i gyhoeddi hefyd.

Daw’r ymosodiad yng nghanol cynnydd mewn achosion tebyg yn erbyn Israeliaid.

Ddechrau’r mis, cafodd Iddew ei anafu’n ddifrifol gan ddyn o Balesteina y tu allan i furiau Hen Ddinas Jerwsalem, a chafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Mae pobol sy’n ymgartrefu ym Mhalesteina hefyd yn cael eu lladd mewn niferoedd cynyddol yn ddiweddar, ac yn eu plith mae Iddew a gafodd ei saethu’n farw gan Balestiniad yn ardal ogleddol y Lan Orllewinol.

Daeth nifer o ymosodiadau yn sgil y digwyddiad hwnnw, gan adael pedwar o Balestiniaid ag anafiadau, ac fe arweiniodd at gryn wrthdaro rhwng milwyr ar y ddwy ochr.

Cefndir

Fe wnaeth Israel feddiannu’r Lan Orllewinol yn ystod y rhyfel yn y Dwyrain Canol yn 1967.

Mae oddeutu 600,000 o Iddewon yn byw mewn mwy na 130 o leoliadau yn y diriogaeth, sy’n gartref i fwy na 2.5m o Balestiniaid sydd eisiau i’r rhanbarth fod yn rhan o’u gwladwriaeth nhw yn y dyfodol.

Mae Israel yn credu bod y Lan Orllewinol yn Feiblaidd ac yn gadarnle yn hanes yr Iddewon.

Mae Palestiniaid yn credu bod niferoedd cynyddol o leoliadau i Israeliaid yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol sy’n bygwth datrysiad dwy wladwriaeth, sef y datrysiad sy’n cael ei ffafrio gan y gymuned ryngwladol.