Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am wahodd cyn-athrawon i ddychwelyd i’r dosbarth, er bod Llywodraeth Cymru’n rhybuddio y gall fod angen dychwelyd i ddysgu ar-lein o ganlyniad i Covid-19.

Mae Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau tebyg i’r rhai sydd wedi’u cymryd eisoes yn Lloegr gan Nadhim Zahawi, Ysgrifennydd Addysg San Steffan.

Mae disgwyl i’r amrywiolyn Omicron arwain at brinder athrawon wrth iddyn nhw orfod hunanynysu wrth i lefelau’r feirws gynyddu yn ystod y gwanwyn, ac mae’n bosib y gallai rhai ardaloedd ei chael hi’n anodd dod o hyd i athrawon cyflenwi.

Yn ôl Laura Anne Jones, dylid gofyn i gyn-athrawon sydd newydd ymddeol neu’r rhai oedd wedi hyfforddi fel athrawon cyn gadael y maes ddychwelyd i’r byd addysg, hyd yn oed am un diwrnod yr wythnos.

Byddai hyn yn ddibynnol ar basio gwiriadau diogelwch, ac yn atal gwersi rhag gorfod dychwelyd ar-lein, meddai.

“Mae athrawon wedi mynd y tu hwnt [i’r disgwyl] drwy gydol y pandemig, gan wneud gwaith ysbrydoledig i gefnogi eu disgyblion a’u cymunedau yn wyneb anawsterau,” meddai wedyn.

“Fodd bynnag, mae’r anghyfleustra i fywyd yr ysgol a chyfnodau estynedig gartref yn golygu bod addysg disgyblion heb os wedi dioddef, yn enwedig y rheiny o gefndiroedd difreintiedig.

“Gydag achosion o Omicron yn cynyddu ar draws y wlad, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan ysgolion a cholegau yr athrawon ar gael i aros ar agor ar gyfer addysg wyneb-yn-wyneb.

“Rhaid i ni fod yn barod ar gyfer y tymor newydd o’n blaenau, neu fel arall bydd ein plant unwaith eto’n teimlo’r ergyd.

“Mae’r alwad i godi arfau fel yr un a welsom gan Nadhim Zahawi a’r Ceidwadwyr yn syniad gwych ac yn un y dylem ei ail-greu yma yng Nghymru.”

Paratoi i ddychwelyd ar-lein

Mae neges Laura Anne Jones yn wahanol iawn i’r un gan y prif weinidog Mark Drakeford, sy’n rhybuddio bod rhaid paratoi i gynnal gwersi ar-lein eto.

Ond mae’n dweud mai penderfyniad awdurdodau lleol, ac nid y Llywodraeth, fydd dychwelyd ar-lein.

Mae ysgolion yng Nghymru eisoes wedi cael dau ddiwrnod ychwanegol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i wneud paratoadau rhag ofn bydd angen dileu gwersi wyneb-yn-wyneb yn sgil Omicron.

Mae undeb prifathrawon yn galw am sicrhau bod digon o brofion llif unffordd.

Yn ôl Mark Drakeford, “pobol sydd mor agos â phosib” at y sefyllfa ddylai fod yn gwneud y penderfyniad, gan fod “ysgolion gwahanol yn wynebu gwahanol heriau”.

Mae disgwyl i bob disgybl ddychwelyd i’r ysgol erbyn Ionawr 10, ond bydd rhai awdurdodau lleol yn agor eu hysgolion cyn hynny – y rhan fwyaf yn y de erbyn Ionawr 6 ar ôl cymryd y ddau ddiwrnod ychwanegol i baratoi, gyda’r rhan fwyaf yn y gogledd yn aros tan y dyddiad olaf posib.

Ionawr 7 yw’r dyddiad tebygol yng Ngheredigion, tra bod disgwyl diweddariad yn Sir Benfro.

Dim ond Powys sydd wedi cadarnhau y bydd gwersi ar-lein ar ddechrau’r tymor, a hynny o Ionawr 7 cyn i ddisgyblion ddychwelyd i’r dosbarth ar Ionawr 10 os bydd lefelau’r feirws yn ddigon isel.