2022 yw’r “flwyddyn i roi’r pandemig yn llwyr y tu ôl i ni”, yn ôl Andrew RT Davies yn ei neges ar drothwy’r Flwyddyn Newydd.

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ei fod e “wedi cael digon o amser i feddwl a myfyrio” wrth iddo gymryd seibiant o reng flaen y byd gwleidyddol yng Nghymru i ofalu am ei iechyd a’i iechyd meddwl ar ôl pyliau o’r ffliw a Covid-19.

Mae’n dweud na fydd “nifer o’r problemau y gwnaethon ni eu hwynebu yn ystod 2021 yn mynd i ffwrdd wrth i ni fynd i mewn i 2022”, ond ei fod yn “gobeithio eleni y gallwn ni roi trefn arnyn nhw”.

Er bod Covid-19 yn “dal i fod gyda ni”, mae’n dweud “ein bod ni mewn lle gwell na’r adeg hon y llynedd, a dylai 2022 fod yn flwyddyn pan ydyn ni’n rhoi’r pandemig yn llwyr y tu ôl i ni ac yn rhoi Cymru ar y ffordd i adferiad”.

Mae’n rhybuddio y bydd yn rhaid i ni “ddysgu byw gyda’r feirws”.

‘Yr her fwyaf oll’

“Does dim os nac oni bai, gan nad yw’r coronafeirws yn mynd i ffwrdd, ac mae cyflwyno cyfyngiadau tymor hir, yn syml iawn, yn anghynaladwy i’n cymdeithas, i’n heconomi a’r heriau iechyd cyhoeddus niferus eraill rydyn ni’n eu hwynebu,” meddai.

“Yr her fwyaf oll yw’r argyfwng yn genedlaethol o ran ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan ddaw i amserau aros cronig.

“Yn syfrdanol, mae un ym mhob pump o bobol yng Nghymru’n goddef aros am driniaeth, ac mae angen i fynd i’r afael â’r broblem hirdymor hon fod yn flaenoriaeth i weinidogion y flwyddyn nesaf.”

Mae’n dweud ymhellach fod “dirfawr angen” canolfannau llawfeddygol rhanbarthol ledled Cymru er mwyn i fwy o gleifion gael triniaeth yn nes at adref y tu allan i ysbytai “sydd yn rhedeg i’w capasiti llawn ac yn agored i fod yn gadarnleoedd yr haint COVID”.

Yr economi a heriau eraill

Wrth drafod yr economi, dywed Andrew RT Davies fod gan y prif weinidog Mark Drakeford a Llafur “y grym a’r arian i sicrhau bod ein busnesau’n cael eu cefnogi’n llawn yn ariannol – yn enwedig wrth i ni wynebu’r cyfnod hwn o ansicrwydd”.

“Rhaid gwneud hyn ar frys, ac mae’n hanfodol eu bod nhw’n gweithio law yn llaw â busnesau ledled Cymru i warchod swyddi a helpu cwmnïau ledled y wlad i ffynnu a thyfu wrth i ni weithio tuag at daro’n ôl o’r pandemig,” meddai.

“Dw i eisiau gweld llywodraeth lwyddiannus yng Nghymru gan fod hynny’n golygu bod pobol a chymunedau ein gwlad wych yn elwa ac yn ffynnu gyda swyddi sy’n talu’n well a gwell gwasanaethau cyhoeddus.

“Dw i eisiau gweld llywodraeth sydd, o’r diwedd, yn cyflwyno’r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru, yn cyflwyno Dedd Awyr Lân, ac yn buddsoddi mewn isadeiledd cyfoes sy’n sicrhau bod gennym ni economi sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain – ac ydy, weinidogion, mae hynny’n golygu ffyrdd hefyd!

“Ac er bod digon i lywodraethau a gweinidogion gael eu dannedd mewn iddo y flwyddyn nesaf, y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud yw edrych ar ôl ein gilydd.

“Beth bynnag rydych chi eisiau ei newid neu ei wella mewn unrhyw ran o’ch bywyd, dw i’n dymuno’r gorau i chi, a chofiwch gymryd amser i ofalu amdanoch chi eich hunain a’ch teulu lle bynnag y bo’n bosib. Dyna un adduned y byddwn yn sicr yn ei hargymell i unrhyw un.

“Dymunaf Flwyddyn Newydd hapus a llewyrchus iawn i chi gyd – a gadewch i ni sicrhau bod 2022 yn bennod lawer mwy disglair i ni ein hunain, ein teuluoedd a’n gwlad.”