Mae arbenigwyr yn yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn credu y gallai olion traed deinosor ar draeth Penarth fod wedi cael eu gwneud dros 200m o flynyddoedd yn ôl.
Y gred yw mai olion traed sawropod neu prosawropod yw’r rhai y daethpwyd o hyd iddyn nhw y llynedd gan arbenigwr amatur, Kerry Rees, oedd wedi rhoi gwybod i’r amgueddfa.
Roedd Dr Susannah Maidment a’r Athro Paul Barrett yn amheus yn wreiddiol, ond ar ôl iddyn nhw ymchwilio ymhellach, daethon nhw i’r casgliad mai olion traed un o gyn-deidiau’r deinosor ydyn nhw, a’u bod nhw’n dod o’r cyfnod Triassic.
Yn ôl Dr Susannah Maidment, mae nifer fawr o bobol yn cymysgu rhwng llwybrau deinosoriaid a nodweddion daearegol eraill.
Ac yn ôl yr Athro Paul Barrett, roedd yr hyn welson nhw ar draeth Penarth “â bylchau cyson rhyngddyn nhw oedd yn awgrymu cerddediad anifail”, er bod olion bysedd traed yn llai amlwg erbyn hyn nag yr oedden nhw mewn ffotograffau a gafodd eu tynnu degawd yn ôl.
Wrth fynd yn ôl at y ffotograffau, roedd mwy fyth o dystiolaeth o’r hyn allai’r olion fod, ac maen nhw wedi gallu dyfalu mai olion Eosauropus, neu lwybr deinosor, sydd ar y traeth ac mai sawropod neu berthynas i’r sawropod oedd wedi eu gadael nhw yno.
Mae’r diplodocws yn perthyn i’r garfan hon o ddeinosoriaid.
“Rydyn ni’n gwybod fod sawropodiau cynnar yn byw ym Mhrydain ar y pryd, gan fod esgyrn Camelotia, sawropod cynnar iawn, wedi’u canfod yng Ngwlad yr Haf mewn creigiau sy’n deillio o’r un cyfnod,” meddai Dr Susannah Maidment.
“Dydyn ni ddim yn gwybod ai dyma’r rhywogaeth a wnaeth y llwybrau, ond mae’n gliw arall sy’n awgrymu mai rhywbeth fel hyn allai fod wedi creu’r llwybrau.”
Llwybrau
Gall llwybrau gynnig cyfoeth o wybodaeth am ymddygiad deinosoriaid, yn ogystal â’u symudiadau torfol a’u cerddediad.
Yn ôl yr Athro Paul Barrett, dydy’r llwybrau a gafodd eu canfod ym Mhenarth ddim yn gyffredin ym mhob rhan o’r byd, felly maen nhw’n “ychwanegiad diddorol at ein gwybodaeth am fywyd Triassic yn y Deyrnas Unedig”, meddai.
“Mae’r cofnod ynghylch deinosoriaid Triassic yn y wlad hon yn eithaf bach, felly mae unrhyw beth y gallwn ni ddod o hyd iddo o’r cyfnod yn ychwanegu at ein darlun o’r hyn oedd yn digwydd ar y pryd.”
Mae’r llwybrau ym Mhenarth wedi’u rhoi ar gof a chadw ar gyfer astudiaethau 3D yn y dyfodol, a byddan nhw’n aros ar y traeth hyd nes eu bod nhw’n cael eu golchi ymaith.
Mae astudiaeth ohonyn nhw wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Geological Magazine.