Mae cannoedd o drenau’n cael eu tynnu oddi ar amserlenni bob dydd yn y Deyrnas Unedig er mwyn ceisio gwella dibynadwyedd gwasanaethau yn dilyn wythnosau o ganslo trenau ar fyr rybudd.

Mae o leiaf wyth o weithredwyr eisoes wedi lleihau faint o wasanaethau dyddiol maen nhw’n eu cynnig ar sawl llwybr, ac mae disgwyl gostyngiad eto dros y dyddiau nesaf wrth iddyn nhw ymateb i brinder staff o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Yn ôl y Rail Delivery Group, mae gweithredwyr yn ceisio sicrhau eu bod nhw’n gallu “cynnig gwasanaeth trenau dibynadwy” wrth iddyn nhw wynebu gostyngiad yn nifer y staff sydd ar gael i weithio ar hyn o bryd.

Maen nhw’n cynghori teithwyr i wirio gwasanaethau cyn paratoi i deithio ac i gofrestru i dderbyn negeseuon am drenau sy’n rhedeg.

Mae disgwyl cryn oedi heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 31) o ganlyniad i streic 24 awr gan undeb RMT.

Mae CrossCountry wedi dileu oddeutu 50 o drenau rhwng dyddiau Llun a dyddiau Sadwrn, o Ragfyr 27 i Ionawr 8, gyda streic gan reolwyr ac arweinwyr uwch ar y gweill.

Mae’r cwmni’n “cynghori’n gryf” fod teithwyr yn addasu eu trefniadau ac yn osgoi teithio ar drên.

Dydy’r cwmni ddim yn rhedeg trenau rhwng Cheltenham Spa a Chaerdydd, yn ogystal â gwasanaethau yn yr Alban, a chanolbarth, dwyrain a de Lloegr, ac mae gwasanaethau eraill wedi’u cwtogi’n sylweddol.