Fe fydd rali’n cael ei chynnal yn Efrog Newydd ddydd Sul (Ionawr 2) i gefnogi’r alwad yn Iwerddon am hawliau i’r iaith Wyddeleg.

Cafodd yr hawliau eu cydnabod yng Nghytundeb Gwener y Groglith 1998, oedd yn “cydnabod pwysigrwydd parch, dealltwriaeth a goddefgarwch mewn perthynas ag amrywiaeth ieithyddol… gan gynnwys yr iaith Wyddeleg”.

Yn 2006, fel rhan o Gytundeb St Andrews, cytunodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfu yn San Steffan i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg er mwyn gwarchod hawliau siaradwyr.

Eu haddewid bryd hynny oedd y bydden nhw’n “cyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg gan fyfyrio ar brofiadau Cymru ac Iwerddon a chydweithio â’r Pwyllgor Gwaith arfaethedig i wella a gwarchod datblygiad yr iaith Wyddeleg”.

Cytunodd arweinwyr y pleidiau unoliaethol fis Ionawr y llynedd i gyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg ymhen tri mis.

Ond bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, does dim deddfwriaeth er bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i’w chyflwyno yn sgil methiant y pleidiau Gwyddelig.

Dywedodd Brandon Lewis, un o weinidogion San Steffan, ym mis Hydref y byddai’n cyflwyno deddfwriaeth, ond dydy hynny ddim wedi digwydd o hyd.

“Maen nhw’n credu nad yw’r Unol Daleithiau’n gwylio,” meddai trefnwyr y rali.

“Gadewch i’ch llais gael ei glywed. Cefnogwch y brotest.”

Bydd y rali’n dechrau am 3.30yp y tu allan i Gonswlaeth y Deyrnas Unedig yn Efrog Newydd.