Ar drothwy’r Flwyddyn Newydd, mae’r Annibynwyr yn dweud bod “Covid wedi ysgwyd eglwysi allan o’u cyflwr cysurus” ac wedi eu “gorfodi i gofleidio ffyrdd newydd o ymarfer eu ffydd”.
Mae hynny’n golygu y “gallai arbed llawer o achosion rhag dirywiad araf a therfynol”, meddai’r Parchedig Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr.
Bydd yr Annibynwyr yn dathlu eu pen-blwydd yn 150 oed yn 2022, a hynny ar ôl y ddwy flynedd fwyaf anodd yn eu hanes yn sgil Covid-19.
“Am y tro cyntaf yn ein hanes, roedd capeli ar gau neu’n gweithredu mewn modd cyfyngedig am gyfnodau hir; y cysylltiad rhwng adeiladau a’u cynulleidfaoedd wedi’i dorri,” meddai’r Parchedig Dyfrig Rees, sy’n canmol gweinidogion a chynulleidfaoedd am gofleidio dulliau newydd.
“Ond mae’r ffordd yr ymatebodd nifer o weinidogion a chynulleidfaoedd i’r her, drwy ddefnyddio Zoom i gynnal gwasanaethau rhithiol a llwyfannau digidol i hybu’r Efengyl, wedi creu deinamig newydd ac wedi adfywio sawl eglwys.
“Cawsom ein hatgoffa mai cymuned o gredinwyr yw’r eglwys, nid adeilad.
“Yn lle cynulleidfa o rai dwsinau neu lai ar fore Sul, gall gwasanaeth Cymraeg a baratowyd gan eglwys unigol ddenu dros 500 o wylwyr ar YouTube. Roedd darpariaeth ysbrydol o’r fath yn hynod werthfawr yn ystod y cyfnodau clo, ond mae’n parhau i fod yn boblogaidd iawn ers i’r cyfyngiadau gael eu llacio.”
Gwneud cais am gymorth
Wrth barhau â’i neges, dywed y Parchedig Dyfrig Rees fod yr Annibynwyr yn gwahodd capeli i wneud cais am gymorth drwy’r cynllun Arloesi a Buddsoddi “am grantiau sylweddol, i fuddsoddi mewn prosiectau arloesol a all gynnwys adeiladu presenoldeb cryfach ar y rhyngrwyd, ochr yn ochr â phrosiectau sy’n galluogi cynulleidfaoedd i fynd ati o’r newydd i ddyfeisio ffyrdd o wneud mwy o ddefnydd cymunedol o adeilad capel, tra’i fod yn parhau i fod yn addoldy”.
“Does dim dwywaith y bydd 2022 yn flwyddyn dyngedfennol i’n heglwysi,” meddai wedyn.
“I rai, efallai mai argyfwng y pandemig fydd yr hoelen olaf sy’n arwain at gau’r achos, ond i eraill bydd yn ddechrau cyfnod newydd lle maent yn cofleidio ffyrdd ffres a chyffrous o ymarfer y ffydd Gristnogol ymhlith y gynulleidfa ac yn y gymuned.”