Wrth edrych ymlaen tuag at 2022, mae Prif Weinidog Cymru’n annog pobol i flaenoriaethu derbyn eu trydydd brechlyn fel adduned blwyddyn newydd.

Yn ei neges Flwyddyn Newydd, mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd wythnosau cyntaf y flwyddyn newydd yn rhai anodd, a bod yr amrywiolyn Omicron yn symud drwy gymunedau Cymru’n gyflym.

Er hynny, “mae dyddiau gwell i ddod”, meddai, wrth ofyn i bobol dynnu at ei gilydd er mwyn cadw ei gilydd yn ddiogel ar drothwy blwyddyn newydd

Hyd yn hyn, mae 1.6 miliwn o bobol wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw (31 Rhagfyr) eu bod nhw wedi ei gynnig i bob oedolyn cymwys.

Mae’r neges hefyd yn gyfle i feddwl am yr holl bobol sydd wedi helpu i gadw Cymru’n ddiogel dros y flwyddyn, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen a staff y Gwasanaeth Iechyd, meddai’r Prif Weinidog.

“Blwyddyn Newydd dda i chi i gyd,” meddai Mark Drakeford.

“Gobeithio eich bod wedi cael Nadolig hapus a heddychlon.

“Wrth i’r flwyddyn ddod i ben, dyma edrych nôl ar y deuddeg mis diwethaf.

“Blwyddyn eithriadol, ac, weithiau, blwyddyn anodd.

“Rwyf am gymryd munud i feddwl am yr holl bobl, ledled Cymru, sydd wedi helpu i’n cadw ni yn ddiogel.

“Unwaith yn rhagor, mae ein gweithwyr rheng flaen, a staff y Gwasanaeth Iechyd, wedi gweithio’n fwy caled nac erioed.

“Dydd a nos, maent wedi gofalu amdanom ac wedi ein hamddiffyn ni. Diolch o galon i chi gyd.

“Nawr, mae’n bryd dechrau meddwl am y flwyddyn i ddod – blwyddyn newydd llawn posibiliadau.

“Bydd llawer ohonom yn gwneud addunedau blwyddyn newydd.

“Os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod, rhowch y trydydd brechiad ar dop eich rhestr.

“Rydym yn gwybod y bydd wythnosau cyntaf 2022 yn anodd.

“Mae Omicron yma yng Nghymru ac yn symud yn gyflym drwy ein cymunedau.

“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i’ch diogelu chi a diogelu Cymru.

“Gyda’n gilydd, fe wnawn ni ddiogelu ein gilydd, a dod allan o’r pandemig yn gryfach.

“Mae dyddiau gwell i ddod.

“Amser eto i fod gyda ffrindiau a theulu. Amser i greu atgofion newydd.

“Felly, os gwelwch yn dda, dewch i ni dynnu gyda’n gilydd eto ar drothwy blwyddyn arall.

“Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.”