Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cadarnhau heddiw (dydd Gwener 31 Rhagfyr) eu bod wedi cynnig apwyntiad brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys.
Mae hyn wedi’i wneud drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys llythyrau, negeseuon testun, archebu ar-lein ac opsiynau galw heibio.
Mae mwy nag 1.5 miliwn o frechlynnau atgyfnerthu wedi’u rhoi hyd yma, gydag 81 y cant o bobl dros 50 oed wedi cael y dos atgyfnerthu.
Mae tua 80 y cant o bobl 12 oed a hŷn yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu ar hyn o bryd – o’r rheini, mae 71 y cant eisoes wedi cael eu pigiad.
Bydd byrddau iechyd yn cysylltu â phawb na allent wneud eu hapwyntiadau mis yma a gofyn iddynt aildrefnu ym mis Ionawr.
‘Ymateb rhagorol’
“Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn rhagorol,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, “ac rydym eisiau diolch i bawb a gadwodd eu hapwyntiad ac a dderbyniodd y cynnig i gael eu brechlyn atgyfnerthu.
“Diolch o galon hefyd i’n timau yn GIG Cymru, eu sefydliadau partner a’r holl wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy amser mor brysur i gyflawni’r dasg aruthrol hon.
“Dros gyfnod y Nadolig roeddem yn falch o weld cynnydd yn y bobl yn dod ymlaen i dderbyn eu dos cyntaf a’u hail ddos o’r brechlyn. Diolch i bawb sy’n dal i ddod ymlaen i gael eu brechu.
“Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynnig eto, gwnewch adduned blwyddyn newydd i gael eich brechlyn atgyfnerthu. Mae pob brechlyn sy’n cael ei roi yn helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.”
‘Ymdrechion enfawr’
“Mae ymdrechion enfawr wedi’u gwneud i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yn y cyfnod cyn y Nadolig – mae bron i 1.6m o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.
“Mae’r sylw dwys ar frechu hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n dod ymlaen ar gyfer eu brechiad cyntaf a’u hail frechiad ail mis Rhagfyr. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru.
“Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi rhoi e’u hamser dros y Nadolig hwn i helpu i amddiffyn eraill, ac i’r holl bobl, ym mhob rhan o Gymru sydd wedi rhoi blaenoriaeth i gael eu brechlyn hefyd.
“Os nad ydych wedi cael eich brechlyn atgyfnerthu eto, rhowch flaenoriaeth i hynny. Dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun rhag y feirws ofnadwy hwn.”