Mae cyfraddau Covid-19 ar eu lefelau uchaf erioed yn wyth o awdurdodau lleol Cymru, ac mae’r gyfradd dros y wlad yn 1,092.5 achos i bob 100,000 person.

Cafodd dros 21,000 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru dros gyfnod o ddeuddydd hyd at 9 fore ddoe (29 Rhagfyr).

Caerdydd sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru, 1,364.1 achos i bob 100,000 person.

Mae’r gyfradd dros 1,000 yn 14 o’r awdurdodau lleol – Casnewydd, Torfaen, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Ceredigion, ac Abertawe.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau heddiw (30 Rhagfyr) eu bod nhw am gynnwys achosion Omicron yn y cyfanswm o achosion Covid o hyn ymlaen, yn hytrach na’u cofnodi nhw ar wahân.

Ceredigion sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn achosion ledled Cymru, ac roedd y gyfradd dros saith niwrnod hyd at ddoe yn 1,163.8 i bob 100,000 person yn y sir.

Astudiaeth ZOE

Mae gan un ymhob 41 person Covid symptomatig yng Nghymru ar hyn o bryd, yn ôl amcangyfrifon astudiaeth Covid ZOE.

Mae tri chwarter y bobol sydd â symptomau tebyg i annwyd ar y funud yn debyg o fod â Covid, yn ôl dadansoddiad newydd ganddyn nhw.

Yn ôl y ddadansoddiad newydd, mae hynny’n gynnydd o’r 50% a nodwyd yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r astudiaeth hefyd yn dweud bod y data’n dangos cwymp yn nifer yr achosion o “annwyd” sydd ddim yn Covid, a chynnydd mewn heintiadau Covid symptomatig.

Dywedodd Dr Claire Stevens, gwyddonydd gyda’r astudiaeth, bod nifer yr achosion o Covid symptomatig dyddiol newydd yn fwy na dwbl y nifer dyddiol yr adeg hon llynedd dros y Deyrnas Unedig.

“Mae nifer yr achosion Covid symptomatig newydd yn fwy na dwbl yr hyn oedden nhw’r adeg hon llynedd, ac rydyn ni ddiwrnod neu ddau i ffwrdd oddi wrth hitio 200,000 [dros y Deyrnas Unedig],” meddai.

“Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y cynnydd sydyn iawn mewn achosion wedi stopio, a bod y cynnydd yn fwy graddol.

“Mae derbyniadau i ysbytai yn dipyn is na’r adeg hon llynedd diolch byth, ond maen nhw dal yn uchel, yn enwedig yn Llundain.”

Mae angen ychwanegu symptomau megis dolur gwddw, cur pen a thrwyn yn rhedeg at y rhestr o symptomau Covid cyn gynted â phosib, meddai.

Awgryma’r data bod achosion ymysg pobol hyd at 55 oed yn arafu, ond bod achosion yn “cynyddu’n sydyn” ymhlith pobol 55 i 75 oed.

Mae hynny’n “peri pryder” meddai gan mai’r grŵp hwn sy’n fwy tebygol o fod angen gofal ysbyty ar ôl dal Covid-19.

Gostyngiad yn y marwolaethau

Mae’r data diweddaraf yn dangos cynnydd sydyn mewn derbyniadau i ysbytai yng Nghymru, gyda 446 o bobol yn ysbytai Cymru â Covid-19 ar y funud.

O gymharu ag wythnos yn ôl, mae hynny’n gynnydd o 299 person, ond mae’r nifer o bobol mewn unedau gofal dwys yn sefydlog.

Mae marwolaethau o Covid-19 yn parhau’n isel, a bu gostyngiad bychan cyn y Nadolig.

Ar hyn o bryd, mae hi’n rhy gynnar i weld effaith cynnydd sydyn mewn achosion yn sgil yr amrywiolyn Omicron ar farwolaethau.

Yn yr wythnos hyd at 17 Rhagfyr, cafodd 51 o farwolaethau’n ymwneud â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hynny’n ostyngiad o 7.4% o’r 54 marwolaeth gafodd eu cofnodi yn ystod yr wythnos flaenorol.

Mae nifer y marwolaethau wedi bod yn gymharol isel ac yn gyson yn ystod y don ddiwethaf o achosion, ond mae hi’n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith amrywiolyn Omicron ar hynny.

Yn sgil yr amser rhwng dal yr haint, derbyniadau i ysbytai, a marwolaethau, ni fydd posib gweld effaith Omicron nes dechrau Ionawr ar y cynharaf.

Cafodd 758 o farwolaethau eu cofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 17 Rhagfyr, sydd 9.4% yn uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd (65 marwolaeth ychwanegol).

Golyga hynny bod Covid-19 yn cael ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaeth 6.6% o’r rhai fuodd farw yn ystod y saith niwrnod hynny.

Yn y cyfnod rhwng 13 Mawrth 2020 ac 17 Rhagfyr 2021, bu 6,840 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru na’r cyfartaledd dros bum mlynedd.

Annog pobl i gael brechiad atgyfnerthu wrth i achosion o Omicron gynyddu

Yr amrywiolyn sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o achosion o Covid-19 erbyn hyn, yn ôl prif feddyg Cymru