Mae Ceredigion wedi gweld y cynnydd mwyaf o achosion Covid-19 ledled Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Yn ôl y Cyngor Sir, mae nifer yr achosion o Covid-19 yng Ngheredigion yn parhau i gynyddu “ar raddfa frawychus” ac maen nhw wedi gweld y raddfa uchaf yn y sir ers dechrau’r pandemig. Mae nifer yr achosion yng Ngheredigion bellach yn 1,163.8 fesul 100,000 o’r boblogaeth gyda 846 o achosion yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.
Mae’r Cyngor yn annog pobl i gael eu brechu ac i hunanynysu am 10 diwrnod os ydyn nhw wedi cael cadarnhad eu bod yn bositif gyda Covid-19, ac ymateb i alwad neu destun gan y Swyddogion Olrhain Cyswllt.
Dywed y Cyngor: “Gydag achosion yn cynyddu yn gyflym yn y sir, rydym yn eich annog i ddilyn y canllawiau. Os oes gennych symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws dylech hunanynysu yn syth a threfnu prawf PCR.”
O ganlyniad i’r cynnydd yn yr achosion o’r amrywiolyn Omicron ledled Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi mesurau ar waith i leihau’r trosglwyddo.
Ar 26 Rhagfyr am 6am, daeth lefel 2 wedi’i haddasu i rym, gyda’r cyfyngiadau a’r canllawiau canlynol:
- Clybiau nos yn cau
- Cadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobl eraill, gan gynnwys yn y gweithle
- Gwisgo mwgwd mewn tafarndai a bwytai os nad ydych yn bwyta neu’n yfed
- Pob digwyddiad chwaraeon, yn broffesiynol ac yn gymunedol, yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig
- Hyd at 6 mewn grŵp mewn llefydd lletygarwch, theatrau, sinemâu
- Mae angen i safleoedd trwyddedig gymryd manylion cyswllt, archebu o flaen llaw a rhoi mesurau priodol ar waith
- Ceisio cyfyngu ar eich ymwneud ag eraill dan do
- Dim hawl cynnal digwyddiadau mawr (dan do neu yn yr awyr agored)
- 30 o bobl ar y mwyaf mewn digwyddiadau dan do a drefnir ymlaen llaw a 50 o bobl ar y mwyaf yn yr awyr agored
- Dim terfyn ar nifer y bobl mewn priodasau ac angladdau. Bydd rhaid i’r safleoedd gadw trefn a rhoi mesurau diogelwch COVID-19 ar waith. Cynghorir gwesteion i gymryd prawf llif unffordd cyn mynd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn gwahodd pawb dros 18 oed, ynghyd â’r rhai sydd mewn grŵp blaenoriaeth uwch, i alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol i gael eu brechu.
“I ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen ac i sicrhau fod cyn lleied o amharu â phosib, mae angen i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb a chwarae ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel,” meddai’r Cyngor.