Mae dinasyddion Prydain wedi cael eu gwahardd rhag gyrru ar draws Ffrainc i gartrefi mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl gweithredwr trenau Twnnel y Sianel.

Dywedodd Eurotunnel Le Shuttle, sy’n gweithredu trenau sy’n cludo cerbydau rhwng Dover a Calais, fod y penderfyniad wedi’i wneud gan lywodraeth Ffrainc.

Mae teithio nad yw’n hanfodol o’r Deyrnas Unedig i Ffrainc wedi’i wahardd ers 18 Rhagfyr mewn ymgais i gyfyngu ar ledaeniad yr amrywiolyn Omicron, ond mae nifer o eithriadau wedi bod ar waith.

Cyhoeddodd Eurotunnel Le Shuttle “ddiweddariad brys” nos Fercher gan ddweud: “Yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Ffrainc, ar 28/12/2021, oni bai eu bod yn dal preswyliaeth Ffrengig, mae dinasyddion Prydain bellach yn cael eu hystyried yn ddinasyddion trydydd gwlad ac felly ni allant bellach groesi Ffrainc i gyrraedd eu gwlad breswyl yn yr Undeb Ewropeaidd.”

Ychwanegodd y cwmni nad yw’n “gallu ateb cwestiynau unigol ynglŷn â’r gofynion newydd”, ac mae peth dryswch am y rheolau.

Cynghorodd deithwyr i ymweld â gwefan llysgenhadaeth Ffrainc yn y Deyrnas Unedig, er nad yw ei gwybodaeth am deithio wedi’i diweddaru ers 20 Rhagfyr.

Nid oes unrhyw gyhoeddiad am newid yn y rheolau wedi’i wneud gan Lywodraeth Ffrainc.

Wrth gwrs, tynnodd y Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, gyda chyfnod pontio ar waith tan ddiwedd y flwyddyn honno.