Mae tafarndai yng Nghymru a’r Alban yn dweud y byddan nhw ar eu colled Nos Galan wrth i bobl baratoi i deithio dros y ffin i Loegr i ddathlu’r Flwyddyn Newydd.
Mae disgwyl i filoedd o bobl fynd i Loegr nos Wener er mwyn osgoi’r cyfyngiadau sydd wedi cael eu gosod gan y Prif Weinidogion Mark Drakeford a Nicola Sturgeon.
Daw hyn yn dilyn achosion cynyddol o’r amrywiolyn Omicron.
Dywedodd Chelly Jones a’i gŵr, sy’n rhedeg Tafarn Stanton House yn y Waun, Wrecsam, eu bod wedi canslo’r adloniant byw yr oedden nhw wedi’i gynllunio ar gyfer Nos Galan oherwydd y rheolau newydd.
“Trychineb”
Mae tafarn Chelly Jones lai na hanner milltir o’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, a dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA: “Mae’r Nadolig wedi bod yn drychineb, nid ydym erioed wedi cael blwyddyn debyg.
“Yr wythnos cyn y Nadolig, fe wnaeth y cyfyngiadau newydd yng Nghymru effeithio ein helw’n sylweddol. Fe wnaethon nhw gadw ni ar agor, ond ein cau ni mewn gwirionedd. Rydyn ni’n dafarn deuluol felly mae’n anodd iawn ar hyn o bryd.
“Mae’n bendant oherwydd y gwahanol gyfyngiadau yn Lloegr nag yng Nghymru,” ychwanegodd.
“Mae yna dafarn ger ein tafarn ni [dros y ffin] sy’n gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau ar Nos Galan. Os yw pobl eisiau mynd i barti, dim ond milltir i fyny’r ffordd sy’n rhaid iddyn nhw gerdded.”
Ychwanegodd Chelly Jones fod pobl yng Nghymru yn teimlo eu bod yn “ymladd brwydr maen nhw’n ei cholli” oherwydd y gallai pobl sy’n croesi’r ffin ar gyfer y dathliadau ddychwelyd gyda’r coronafeirws, gan effeithio ymdrechion pobl sydd yn dilyn y cyfyngiadau.
‘Cyfyngu niferoedd’
Yn y cyfamser mae tafarndai yn Lloegr yn paratoi ar gyfer cyfnod prysur iawn. Dywedodd Justin Realff, landlord y Grosvenor Arms yn Aldford, ger Caer, sydd tua hanner milltir i ffwrdd o’r ffin a Chymru, y gallen nhw orfod cwtogi’r niferoedd os oes gormod o bobl yn dod yno ar Nos Galan.
Dywedodd wrth PA: “Bydd yn rhaid i ni fod yn ofalus oherwydd dydyn ni ddim eisiau bod yn rhy brysur, byddwn ni’n sicrhau bod gennym ni lawer o aer yn mynd drwodd, ond bydd yn dda i fusnes.
“Rydyn ni’n sicrhau bod digon o le ac yn sicrhau bod pobl yn dod trwy un fynedfa, ac efallai y bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar niferoedd ar ryw adeg.”
Yn yr Alban, mae’r Dirprwy Brif Weinidog John Swinney wedi annog pobl i beidio croesi’r ffin i gymryd mantais o gyfyngiadau llai llym yn Lloegr.
Er ei fod yn derbyn bod gan bobl yr hawl deithio i Loegr i gymryd rhan yn y dathliadau yno, dywedodd na fyddai hynny “yn ysbryd y rheolau ry’n ni’n eu cyflwyno.”
Ar hyn o bryd nid yw clybiau nos yng Nghymru a’r Alban yn cael agor, ac mae’r rheol o chwech mewn grym ar gyfer tafarndai a bwytai yng Nghymru.