Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi bod dwy farwolaeth arall wedi bod, yn eu ffigurau dyddiol heddiw (Dydd Mercher, 29 Rhagfyr).

Cafodd 5,929 o achosion newydd hefyd eu cofnodi ar 29 Rhagfyr. Mae cyfanswm yr achosion o Covid-19 bellach yn 600,682.

Cyfanswm y marwolaethau yw 6,553.

Daw hyn wrth i ddirprwy brif swyddog meddygol Cymru ddweud bod tua 6,000 o achosion newydd o Covid-19 yn cael eu cadarnhau bob dydd, a bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael eu hachosi gan yr amrywiolyn omicron newydd.

Mae Dr Chris Jones, wedi annog pawb i gymryd camau i amddiffyn eu hunain rhag Covid-19 gan fod cyfraddau achosion yn codi i’w lefelau uchaf yn y pandemig.