Mae prinder profion llif unffordd mewn fferyllfeydd yn broblem “enfawr” wrth i bobl wneud cais amdanyn nhw bob pum munud dros gyfnod y Nadolig, meddai darparwyr.

Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson annog pobl i gymryd prawf coronafeirws cyn dathliadau’r Flwyddyn Newydd, a hynny er bod nifer o bobl yn gallu cael y profion oherwydd problemau gyda’u cyflenwi.

Mae Boris Johnson wedi annog pobl i fwynhau’r noson mewn modd “gwyliadwrus a chyfrifol” drwy archebu prawf neu gael brechlyn atgyfnerthu. Ond mae prif weithredwr Cymdeithas y Fferyllfeydd Annibynnol (AIMP), Leyla Hannbeck wedi dweud bod pobl yn aml yn methu cael y profion Covid-19 mewn fferyllfeydd oherwydd bod y cyflenwad yn annigonol ac “anghyson”.

Problem “enfawr”

Wrth siarad ar raglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd Leyla Hannbeck: “Yr hyn mae’n haelodau yn ei ddweud yw bod y galw am y profion llif unffordd yn uchel iawn ar hyn o bryd oherwydd y canllawiau cyfredol ynghylch hunan-ynysu.

“Mae fferyllfeydd yn adrodd bod rhywun, tua bob pum munud, yn dod i’r fferyllfa yn gofyn am brawf.

“Ond, yn anffodus, oherwydd bod y cyflenwadau yn anghyson, mae’n golygu nad yw’r rhai sy’n dod am y prawf bob amser yn ei gael, sy’n straen mawr nid yn unig i’r fferyllwyr ond i’r claf.

“Mae maint y broblem yn enfawr oherwydd bod y galw yn uchel, ac oherwydd y canllawiau cyfredol.”

Mae bron i 9000,000 o’r profion yn cael eu darparu bob dydd yn ôl Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) – sef dwywaith yr hyn oedd yn cael ei gyflenwi cyn 18 Rhagfyr. Ond yn ôl Leyla Hannbeck “nid yw hyn yn ddigon i gwrdd â’r galw” ac mae’r cyflenwadau wedi bod yn “dameidiog”.

Mae gwefan y Llywodraeth yn adrodd nad oes profion PCR ar gael i bobl gan gynnwys gweithwyr allweddol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dim ond “ychydig iawn” sydd ar gael yn yr Alban, tra bod pobl yng Nghymru yn gallu archebu’r profion ar-lein ar hyn o bryd.

“Traed moch”

Dywedodd ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid, Wes Streeting, bod y prinder cyflenwadau “yn draed moch” sydd wedi’i achosi gan y Llywodraeth Geidwadol.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur: “Mae’r methiant i sicrhau bod digon o brofion ar gael wythnosau ar ôl iddyn nhw ddod yn ofynnol yn draed moch llwyr.

“Mae pobl yn ceisio gwneud y peth iawn, dilyn cyngor y Llywodraeth ei hun a phrofi eu hunain yn rheolaidd, ond maen nhw’n cael eu hatal gan anghymhwysedd y Llywodraeth Geidwadol.”

Mae’r UKHSA wedi dweud efallai na fydd profion ar gael dros dro ar wefan y Llywodraeth ar adegau yn ystod y dydd oherwydd “galw eithriadol o uchel” ac wedi annog pobl i beidio ag archebu mwy o brofion cyn defnyddio’r rhai sydd ganddyn nhw.