Bydd pobol sy’n profi’n bositif am Covid-19 yng Nghymru yn gorfod hunanynysu am saith niwrnod yn hytrach na deg o fory (31 Rhagfyr) ymlaen.
Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau’r newid gan ddweud bod gofyn i bobol gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod chwech a saith o’u cyfnod hunanynysu.
Os yw’r profion, sydd i’w cymryd 24 awr ar wahân, yn bositif dylai pobol barhau i hunanynysu.
Wrth gyhoeddi’r newid, dywedodd Llywodraeth Cymru bod cydbwysedd y niwed wedi newid, a bod y nifer cynyddol o achosion wedi dechrau cael effaith ar nifer y bobol mewn swyddi hanfodol sydd methu gweithio gan eu bod nhw’n hunanynysu.
Mae’r newidiadau yn rhan o adolygiad wythnosol Llywodraeth Cymru i’r cyfyngiadau Covid.
Ers 26 Rhagfyr, mae Cymru wedi symud i lefel rhybudd 2, a bydd y wlad yn parhau â’r trefniadau hynny am y tro.
“Cyfnewidiol”
Mae’r sefyllfa yn parhau i fod yn un “gyfnewidiol iawn ac mae cyfnod y Nadolig yn un heriol i gasglu a dadansoddi data”, meddai’r Prif Weinidog, gan ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus.
“Heddiw, mae adolygiad wedi’i gynnal o’r sefyllfa iechyd y cyhoedd dros gyfnod y Nadolig,” meddai Mark Drakeford.
“Mae wedi dirywio yn ystod yr wythnos ddiwethaf wrth i’r don Omicron gyrraedd. Rydym wedi gweld cynnydd amlwg yn nifer yr achosion o coronafeirws – mae’r mwyafrif yn debygol o fod o ganlyniad i amrywiolyn Omicron.
Mae hyn yn debyg i’r sefyllfa ar draws y Deyrnas Unedig.
Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o heintiau ac mae’r gyfradd o achosion dros saith diwrnod wedi codi i fwy na 1,000 o achosion fesul 100,000 o bobl ledled Cymru
“Bydd y Cabinet yn parhau i adolygu’r sefyllfa yng Nghymru yn wythnosol, wrth i ni weld yr amrywiolyn omicron yn cael ei gynnal ledled Cymru.
“O ystyried difrifoldeb y bygythiad y mae’r feirws yn ei achosi, mae’n parhau’n hanfodol bwysig bod pob un ohonom yn dal ati i gymryd yr holl ragofalon syml hynny a fydd yn helpu i arafu lledaeniad y feirws a’r risgiau y mae’n eu hachosi i bob un ohonom.”
Mae’r galw am brofion PCR a phrofion llif unffordd yn parhau i godi hefyd, meddai Mark Drakeford, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed.
Mae gan Gymru stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy’n ddigonol ar gyfer yr wythnosau nesaf, meddai Llywodraeth Cymru, ac maen nhw am roi pedair miliwn i Loegr er mwyn mynd i’r afael â phrinderau yno.
Brechlynnau
Erbyn hyn mae 1.6 miliwn o bobol yng Nghymru wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i gael eu brechu.
“Mae ymdrechion enfawr wedi’u gwneud i ddarparu brechlynnau atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys yn y cyfnod cyn y Nadolig – mae bron i 1.6m o bobl wedi cael brechlyn atgyfnerthu,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r sylw dwys ar frechu hefyd wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n dod ymlaen ar gyfer eu brechiad cyntaf a’u hail frechiad ail mis Rhagfyr. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru.
“Hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi rhoi e’u hamser dros y Nadolig hwn i helpu i amddiffyn eraill, ac i’r holl bobl, ym mhob rhan o Gymru sydd wedi rhoi blaenoriaeth i gael eu brechlyn hefyd.
“Os nad ydych wedi cael eich brechlyn atgyfnerthu eto, rhowch flaenoriaeth i hynny. Dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun rhag y feirws ofnadwy hwn.”
“Dangos y dystiolaeth”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad am hunanynysu, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS, ei fod yn croesawu’r newyddion.
“Rydyn ni’n croesawu’r newidiadau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw sy’n gweld hunanynysu’n cael ei gwtogi dridiau i ganiatáu i weithwyr hanfodol weithio, i gadw’r economi’n mynd, a chynnal lefelau staff yn y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Mae’n siom fod y Llywodraeth Lafur wedi gwrthod y newid hwn yr wythnos ddiwethaf, ond o leiaf maen nhw wedi gweld y dystiolaeth a newid eu meddyliau.
“Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur arwain drwy esiampl a chyhoeddi’r dystiolaeth maen nhw’n ei dderbyn cyn gwneud penderfyniadau, fel ein bod ni’n gallu craffu ar eu gweithredoedd.
“Dyw hi ddim digon da eu bod nhw eisiau cyflwyno cyfyngiadau, sydd ddim yn gwneud synnwyr, heb ddangos y dystiolaeth hanfodol i’w cyfiawnhau nhw.”
Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i adolygu’r cyfyngiadau bob wythnos, ac oni bai am y newid i’r rheolau hunanynysu bydd y cyfyngiadau’n aros yr un peth am yr wythnos nesaf.