Bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi pedair miliwn o brofion llif unffordd i fenthyg i Wasanaethau Iechyd yn Lloegr i fynd i’r afael â phrinderau yno.

Daw hyn wedi i wyddonwyr godi pryderon y gallai prinder profion yno arwain at bobol yn cymdeithasu dros y Flwyddyn Newydd heb wneud profion.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud bod y galw am brofion PCR a phrofion llif unffordd yn “parhau i godi ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed”.

“Mae gan Gymru stoc sylweddol o brofion llif unffordd, sy’n ddigonol ar gyfer ein hanghenion dros yr wythnosau nesaf,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cytuno heddiw i fenthyg pedair miliwn yn rhagor o brofion o’r fath i NHS Lloegr, gan ddod â’r cymorth hwnnw sydd o fudd i bawb i 10 miliwn o brofion llif unffordd.

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n parhau i fod yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau prawf llif unffordd i gartrefi a fferyllfeydd ac yr ydym yn gweithio gyda nhw, gan ei fod yn cynyddu capasiti’r system.”

“Peri pryder”

Yn ôl darparwyr, mae prinder profion llif unffordd mewn fferyllfeydd yn broblem “enfawr” wrth i bobol wneud cais amdanyn nhw bob pum munud.

Daw hyn wrth i’r Prif Weinidog Boris Johnson annog pobl i gymryd prawf coronafeirws cyn dathliadau’r Flwyddyn Newydd, ond dywedodd yr Athro Peter Openshaw bod amodau’r Flwyddyn Newydd yn “berffaith” ar gyfer lledaenu coronafeirws a bod pryderon na fydd pobol yn gallu cael gafael ar brofion.

“Dw i’n meddwl ei fod yn peri pryder,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Rydyn ni’n gwybod ym mha sefyllfaoedd mae lledaeniad yn digwydd, ac yn ffodus dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n wynebu’r math o gyfnod clo oedd ei angen i ymdopi ddechrau’r flwyddyn hon.

“Ond rydyn ni’n gwybod bod ymgynnull gyda’n gilydd mewn llefydd ag awyru gwael, yn enwedig os yw bobol yn gweiddi dros gerddoriaeth uchel, yn hollol berffaith o ran lledaenu’r feirws hynod, hynod drosglwyddadwy hwn.

“Mae nifer ohonom yn teimlo’n sori iawn, iawn bod cynifer o achosion yn ymddangos ond dw i’n meddwl ei fod yn rhagweladwy, ein bod ni’n gallu gweld y math hwn o gynnydd, o ystyried bod amrywiolyn Omicron yn lledaenu mor sydyn.

“Rydyn ni’n edrych ar y rhifau ac roedden ni’n gweld ein bod ni am weld y mathau hyn o rifau oni bai bod gwyrth annisgwyl iawn yn digwydd.”

Mae clybiau nos yng Nghymru wedi cau ers 26 Rhagfyr, a dan reoliadau Covid-19 dim ond 30 person sy’n cael cyfarfod dan do.

Dim ond chwe pherson sy’n cael eistedd gyda’i gilydd mewn bwytai, caffis neu dafarndai yng Nghymru, ond does dim cyfyngiadau ar gymdeithasu wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr hyd yn hyn.

“Galw anferth”

Mewn llythyr at Aelodau Seneddol, mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid, wedi dweud y bydd cyflenwad profion llif unffordd y Deyrnas Unedig yn treblu ym mis Ionawr a Chwefror, a’u bod nhw am brynu 300 miliwn y mis.

Daw hyn wedi iddo feirniadu’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru ar ôl i Parkrun ganslo clybiau rhedeg yn sgil y cyfyngiadau.

“I ymateb i’r galw disgwyliedig dros yr ychydig wythnos nesaf rydyn ni’n prynu cannoedd ar filiynau o brofion llif unffordd ychwanegol, gan ddefnyddio cynnyrch newydd a chyflymu’r gwaith o’r dyrannu i’r cyhoedd,” meddai Sajid Javid.

Ond “yn sgil y galw anferth am brofion llif unffordd rydyn ni wedi’i weld dros y tair wythnos ddiwethaf, rydyn ni’n disgwyl gorfod cyfyngu ar y system ar ambell bwynt dros y bythefnos nesaf er mwyn rheoli’r cyflenwad”.

Prinder profion llif unffordd yn broblem “enfawr”

Pobl yn dod i fferyllfeydd “bob pum munud” i gael y profion ond dim ar gael