Mae Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid, wedi beirniadu’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru ar ôl i Parkrun ganslo clybiau rhedeg yn sgil y cyfyngiadau.
Dywedodd Sajid Javid nad oedd yn gweld “sut y gellir cyfiawnhau cyfyngu ar ymarfer corff tu allan” wrth iddo drydar datganiad gan Parkrun, sydd wedi amlinelli sut fydd cyfyngiadau’r Deyrnas Unedig yn effeithio eu digwyddiadau wrth fynd ymlaen.
Hyd yn hyn, mae Parkrun wedi canslo eu digwyddiadau 5k yng Nghymru, gan fod y cyfyngiadau yn golygu na ellir eu cynnal os oes mwy na 50 o bobl yn cymryd rhan.
Mewn datganiad ar eu gwefan ar 22 Rhagfyr, dywedodd Parkrun: “Gydag ansicrwydd cynyddol ynghylch cyfyngiadau sydd ar droed a sut y gallen nhw effeithio ar ddigwyddiadau Parkrun, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiweddaru ein cymunedau ledled y wlad.
“Mae’r dystiolaeth yn parhau i fod yn glir bod y risgiau haint mewn digwyddiadau awyr agored fel ein rhai ni yn eithriadol o isel a bod buddion iechyd y cyhoedd o barhau ar agor yn anhygoel o uchel. Ein bwriad, felly, yw parhau gydag unrhyw ddigwyddiadau Parkrun sy’n gallu gwneud hynny’n gyfreithiol.
“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi nad yw mwy na 50 o bobl yn gallu dod ynghyd. Mae’n golygu nad oes gennym unrhyw ddewis ond atal ein holl ddigwyddiadau 5k o 1 Ionawr ymlaen. Rydym yn gwybod bod llai na 50 o bobl yn mynychu rhai digwyddiadau Parkrun yng Nghymru yn rheolaidd, ond byddai’n hawdd iawn mynd dros y terfyn.”
Dywedodd y llefarydd y byddai digwyddiadau Parkrun sy’n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau gan eu bod yn cydymffurfio a’r cyfyngiadau yn y gwledydd hynny.
Wrth iddo bostio’r ddolen i’w dudalen Twitter, fe drydarodd Sajid Javid: “Mae Parkrun wedi helpu cymaint o bobl i wella eu hiechyd ledled y DU. Dw i ddim yn gweld sut y gellir cyfiawnhau cyfyngu ar ymarfer corff yn yr awyr agored.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai diogelwch y cyhoedd ydy’r flaenoriaeth.