Gallai absenoldeb staff achosi mwy o broblemau i’r Gwasanaeth Iechyd na’r nifer o gleifion a fydd angen triniaeth ar gyfer Covid.

Dyma yw neges amryw o benaethiaid ysbytai yn ôl prif weithredwr y corff sy’n cynrychioli ymddiriedolaethau iechyd ledled Prydain, NHS Providers.

“Rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn lefel absenoldeb staff, gyda rhai ysbytai’n gorfod symud staff i lenwi’r bylchau mewn gwasanaethau brys a hanfodol i gymryd lle gweithwyr sy’n sâl,” meddai Chris Hopson.

Dywedodd hefyd ei bod ychydig yn gynnar i ddweud ar hyn o bryd beth fydd effaith Omicron ar nifer y cleifion Covid mewn ysbytai. Er bod cynnydd wedi bod yn nifer y cleifion sy’n mynd i ysbyty sy’n profi’n bositif am Covid, mae angen osgoi camddehongli data, meddai.

“Pan oedd achosion yn cyrraedd pegynnau o’r blaen, roedd gennym rai pobl hŷn difrifol wael ac roedd rhaid iddynt fynd i unedau gofal dwys anadlu,” meddai.

“Y gwahaniaeth y tro hwn yw bod gennym gryn dipyn o gleifion yn dod i mewn – efallai eu bod wedi syrthio oddi ar eu beic neu dorri eu coes – ac yn profi’n bositif am Covid er nad oes ganddyn nhw symptomau.

“Dyw’r ystadegau’r ydym ni’n eu defnyddio ddim yn gwahaniaethu rhwng y ddau fath o gleifion. Felly mae angen inni fod yn ofalus cyn gor-ddehongli’r data.

“Y peth allweddol yw na wyddon ni beth sydd am ddigwydd pan fydd Omicron yn cyrraedd y boblogaeth hŷn. Mae’n amlwg ein bod wedi cael llawer o gymysgu rhwng cenedlaethau dros y Nadolig, felly rydym yn dal i aros i weld a fydd cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl hŷn sy’n dod i’r ysbyty gyda salwch difrifol cysylltiedig ag Omicron.”