Mae disgwyl i wledydd Prydain ddychwelyd at dywydd oer rhewllyd ar ôl yr hyn a allai fod y Nos Galan gynhesaf erioed nos Wener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’r tymheredd yn debygol o ostwng i’r cyfartaledd ar gyfer mis Ionawr wrth i fis Rhagfyr ddiweddu mewn tywydd anghyffredin o fwyn.
Fel arfer mae’r tymheredd ym mis Ionawr yn 7-8C ar gyfartaledd yn ne Lloegr a 3-4C yn yr Alban yn ystod y dydd, a 2-3C a 0C yn ystod y nos.
Mae’r tywydd mwyn yn debygol o barhau am rai dyddiau eto cyn y bydd yn dychwelyd at batrwm arferol o’r fath, fodd bynnag.
“Y record ar gyfer Nos Galan yw 14.8C yn 2011,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd. “Mae’n ymddangos y bydd y tymheredd tua 14-15C, felly gallai fod yr uchaf erioed eleni.
“Am weddill yr wythnos, rydym am weld tymheredd sy’n uwch na’r cyfartaledd yr adeg hon o’r flwyddyn ledled Prydain.
“Rydym yn edrych ar uchafbwyntiau o tua 12-14C ac o bosib hyd at 15C mewn un neu ddau o leoedd, felly mae am fod yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd.”