Mae’r sector gwirfoddol yng Nghymru wedi cael hwb ariannol yn sgil cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd £7 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf yn cael ei roi i bartneriaeth o sefydliadau gwirfoddol yn gweithredu dan yr enw Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys 20 o sefydliadau – 19 o gynghorau gwirfoddol sirol, sef un i bob ardal sirol, a’r corff aelodaeth cenedlaethol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae’r sefydliadau hyn yn cefnogi gwaith holl sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru trwy eu cynghori a’u helpu gyda materion fel annog gwirfoddolwyr, llywodraethu da, cyllido cynaliadwy a chyd-drafod a dylanwadu.

Mae’r cyllid newydd ar ben yr arian sy’n cael ei ddyrannu ar gyfer Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, sef cynllun grant o hyd at £250,000 at wella cyfleusterau a phrosiectau cymunedol lleol.

Gyda chyllid o’r Rhaglen yn cael ei ddyfarnu bob tri mis, dau brosiect o Gaerdydd ac un o Gasnewydd yw’r rhai diweddaraf i gael cyllid o £250,000 yr un ohoni.

‘Dangos dycnwch’

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd â chyfrifoldeb dros y trydydd sector yng Nghymru:

“Mae hon, eto, wedi bod yn flwyddyn anodd i’r rhan fwyaf ohonom ni, ond mae’r sefydliadau cymunedol, elusennol a sefydliadau’r trydydd sector wedi parhau i ddangos dycnwch yn cefnogi pawb.

“Bydd parhau i ymrwymo cyllid sylweddol drwy rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru a’n Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn caniatáu i’n prosiectau lleol gwych, sy’n canolbwyntio ar gymunedau bychain, yn ogystal â sefydliadau ag ystod ehangach i esblygu a thyfu yn eu hardaloedd, gan sicrhau eu bod yn parhau’n addas at eu diben ac ar gael i bawb sydd eu hangen.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

“Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn bartneriaeth unigryw, sy’n cefnogi gweithredu gwirfoddol ac elusennol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n haelodau’n weithgar ym mhob cymuned ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i bawb.

“Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni gynnal a datblygu ein gwasanaethau i fodloni anghenion y sector ar hyn o bryd a’r anghenion sy’n dod i’r amlwg.”

Mae modd anfon cais i’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol drwy’r flwyddyn, ac am ragor o wybodaeth dylai sefydliadau chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar www.llyw.cymru