Mae undebau’n rhybuddio y gallai holl rwydwaith ffyrdd Sir Gâr gael ei barlysu gan streiciau graeanwyr yn y flwyddyn newydd.

Daw hyn wrth i’r graeanwyr yn Adran Priffyrdd Cyngor Sir Gâr gyhoeddi dyddiadau y byddant nhw’n gwrthod graeanu ffyrdd y mis nesaf.

Fe fydd staff graeanu yn mynd ar eu streic gyntaf ar 6-7 Ionawr, wedyn ar 17-21 Ionawr ac eto rhwng 24 a 28 Ionawr.

Mae hyn yn dilyn pleidlais yn gynharach y mis yma gan tua 70 o raeanwyr yn undebau’r GMB, Unison ac Unite dros weithredu diwydiannol yn gynnar y flwyddyn newydd.

Mae’r undebau’n cyhuddo Cyngor Sir Gâr – sydd eisoes â phrinder gyrwyr HGV – o dorri cytundebau gyda’u haelodau ac o gerdded allan o drafodaethau.

Meddai Peter Hill, Trefnydd Rhanbarthol y GMB:

“Oherwydd styfnigrwydd Cyngor Sir Gâr, does gan ein haelodau bellach ddim dewis ond gweithredu.

“Dyw hyn ddim yn rhywbeth rydym yn ei gymryd yn ysgafn, ond hyd nes y deuan nhw’n ôl at y bwrdd, byddwn yn parhau.

“Mae’n warth fod awdurdod lleol yn gwrthod dilyn cytundeb a gafodd ei arwyddo, ac yna’n gadael trafodaethau a oedd i fod i ddatrys y problemau.

“Does dim un awdurdod lleol arall yng Nghymru yn ymddwyn fel hyn.”