Roedd John Major wedi cyfaddef yn breifat pan oedd yn brif weinidog yn 1992 nad oedd modd trechu’r IRA yn filwrol.
Ar yr un pryd, roedd yn dweud hefyd y byddai gweriniaethwyr Iwerddon yn camgymryd pe baen nhw’n meddwl y byddai diflastod yn peri i Brydain ildio yn y frwydr yn eu herbyn.
Yn ôl cofnodion gan lywodraeth Iwerddon, fe wnaeth John Major y sylw yn Downing Street ym mis Chwefror 1992 mewn cyfarfod gydag Albert Reynolds, Taoiseach newydd Iwerddon.
Roedd hyn wrth i’r pleidiau drafod ffyrdd tuag at broses heddwch yng ngogledd Iwerddon.
Yn y cyfarfod gofynnodd y Taoiseach yn uniongyrchol i John Major: “Ydych chi’n meddwl y gallwn ni orchfygu’r IRA?”
Ei ymateb oedd: “Yn filwrol byddai hyn yn anodd iawn. Fyddwn i ddim yn dweud hyn yn gyhoeddus wrth gwrs, ond yn breifat, fe fyddwn i’n dweud, o bosib, na.”
Dywedoddd Albert Reynolds wrtho ei fod yn credu bod yr IRA “o ddifrif” yn ceisio heddwch.
Roedd hyn er gwaethaf ymosodiad gan yr IRA ar 10 Downing Streeet yn ystod cyfarfod o’r cabinet y flwyddyn gynt.
Wrth fynegi ei amheuon am hyn, meddai John Major:
“Fyddan nhw ddim yn cael heddwch trwy osod bomiau yn Whitehall – i’r gwrthwyneb. Pam maen nhw’n ymddwyn fel hyn os oes arnyn nhw eisiau heddwch?”
Atebodd Albert Reynolds eu bod “bob amser yn gwneud hyn”:
“Cyn rhoi’r gorau i drais maen nhw bob amser yn gweithredu mwy. Maen nhw bob amser yn hoffi rhoi’r argraff os yw cadoediad yn digwydd, nad ydyn nhw ddim wedi gweithredu o sefyllfa o wendid.”
Mae’n amlwg o’r cofnodion fod y ddau arweinydd yn sylweddoli bod ffordd bell i fynd at heddwch, ond fod rhywfaint o obaith.
“Mae gen i’r anffawd o beidio â bod yn Wyddel ond dw i’n deall pwysigrwydd symboliaeth,” meddai John Major. “Rhaid inni fod yn barod i wneud pethau anghonfensiynol.”