Mae cynllun i godi 27 o dai fforddiadwy ym Môn wedi cythruddo llawer o drigolion lleol.

Mae deiseb ac arni 600 o lofnodion a’r cyngor cymuned lleol yn galw ar Gyngor Môn i wrthod y cynllun ym mhentref Llanfairpwll.

Yn ôl ymgyrchwyr lleol yn erbyn y datblygiad, mae’r safle y tu allan i Gynllun Datblygu Strwythurol Cyngor Sir Fôn.

“O’r holl bobl y cysylltwyd â nhw, mae dros 97% yn erbyn datblygu ar y safle yma, un o’r caeau gwyrdd olaf ar ôl yn Llanfairpwll,” meddai Alan Shore ar ran yr ymgyrchwyr.

“Mae dros 150 o dai ychwanegol wedi cael eu codi ar hyd y ffordd yma dros y blynyddoedd diwethaf heb unrhyw ystyriaeth am seilwaith.

“Mae llifogydd bellach yn gyffredin mewn sawl rhan o’r pentref, sy’n peri pryder mawr.”

Dywed y datblygwyr, DU Construction o Gaergybi, fodd bynnag, fod angen mawr am dai fforddiadwy gyda dros 100 yn aros am dai yn yr ardal.

Dywed Cyngor Cymuned Llanfairpwll eu bod yn cefnogi’r egwyddor o fwy o dai fforddiadwy neu dai cymdeithasol yn y pentref, ond eu bod yn gwrthwynebu’n gryf y cynlluniau presennol oherwydd pryderon am draffig, swn o’r A55, diffyg darpariaeth gwaredu gwastraff a llifogydd.

Mae disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Fôn drafod y cais yn y flwyddyn newydd.