Mae’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r rhyngrwyd wedi mwy na dyblu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020.

Yn ôl y darparwr Zen Internet, cyhoeddiad Boris Johnson ar y brechiadau hybu ar 12 Rhagfyr a ddenodd y sylw mwyaf, gyda’r ymrwymiadau terfynol o Cop26 ar 13 Tachwedd a’r terfysgoedd yn Washington ddechrau’r flwyddyn yn uchafbwyntiau eraill.

Roedd Euro 2020, lansio’r gêm fideo Halo Infinite a chyfres ddiweddaraf Line of Duty hefyd wedi cyfrannu at boblogrwydd cyffredinol y rhyngrwyd.

“Mae’n ddiddorol gweld lle mae’r uchafbwyntiau wedi bod mewn 12 mis cythryblus arall i ddefnyddwyr,” meddai Paul Stobart, prif weithredwr Zen Internet.

“Yr hyn sy’n amlwg yw bod y galw am gysylltiad dibynadwy ym Mhrydain wedi parhau i dyfu y tu hwnt i lefelau 2020, a oedd eisoes yn uwch nag erioed.

“Gyda’r rhyngrwyd yn alluogydd hanfodol o waith a chwarae, dydyn ni ddim yn disgwyl i’r galw ddisgyn yn y dyfodol agos. Wrth edrych i 2022 a’r tu hwnt, fe fydd galw cynyddol am gysylltiad band eang dibynadwy a gwydn.”