Mae’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi gorchymyn adolygiad o’r rheolau presennol ynghylch perchnogaeth bwa a saeth.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn edrych ar ffyrdd o gryfhau rheolaeth ar arfau o’r fath.
Daw hyn ar ôl i ddyn 19 oed gael ei arestio ar dir Castell Windsor ddydd Nadolig ar amheuaeth o fod â bwa yn ei feddiant.
Dywed Heddlu Llundain fod y dyn bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae’r heddlu hefyd yn edrych ar fideo sy’n ymddangos fel pe bai’n dangos rhywun mewn hwdi du yn dweud fod arno eisiau llofruddio’r Frenhines er mwyn “dial”.
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae’n drosedd i unrhyw un o dan 18 oed i brynu bwa neu bod ag un ei feddiant. Fel arfau ymosodol, mae gwaharddiad hefyd ar fod ag un mewn meddiant mewn lle cyhoeddus heb awdurdod neu esgus resymol.