Fe fydd y gwahaniaethau ymysg gwledydd Prydain yn y ffordd maen nhw’n ymdrin â’r coronafeirws yn amlygu eu hunain yn glir iawn nos Galan eleni.

Ddoe (dydd Llun 27 Rhagfyr) fe wnaeth Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid, gadarnhau na fydd cyfyngiadau pellach ar gymdeithasu, cyn y flwyddyn newydd o leiaf.

Mae ei gyhoeddiad yn golygu y bydd clybiau nos yn cael aros yn agored nos Wener, ac na fydd cyfyngiadau ar y niferoedd mewn tafarndai.

Mae hyn yn gwbl groes i’r sefyllfa yng Nghymru, lle nad yw grwpiau o fwy na chwech o bobl yn cael cyfarfod mewn tafarndai na thai bwyta ers dydd Sul, pryd y cafodd clybiau nos eu cau yn gyfan gwbl.

Uchafswm o 30 o bobl sy’n cael mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol o dan do, ac uchafswm o 50 i ddigwyddiadau awyr agored.

Yn yr Alban hefyd mae cyfyngiadau o uchafswm o 100 o bobl yn sefyll o dan do, 200 yn eistedd o dan do a 500 yn yr awyr agored, ac mae cadw pellter cymdeithasol o un metr yn orfodol mewn lleoliadau lletygarwch a hamdden.

Fe fydd clybiau nos ar gau nos Galan yng Ngogledd Iwerddon hefyd.