Mae angen gweithredu ysbryd y Nadolig i wella’r rhaniadau gafodd eu hachosi gan y pandemic Covid, yn ôl un arweinydd Cristnogol Cymreig.

Fe fydd y Parchedig Beti-Wyn James yn arwain oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C am 11.30 ar fore dydd Nadolig.

Hi yw Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg sy’n cynrychioli Cristnogion sy’n cwrdd mewn tua 400 o gapeli ledled Cymru.

Yma mae hi’n rhannu ei neges ar drothwy’r Dolig, gan obeithio bod gwell i ddod yn 2022.

“Yn ogystal â’i effaith ddinistriol ar iechyd cyhoeddus, mae digwyddiadau ac agweddau sy’n ymwneud â’r pandemig wedi achosi cryn chwerwder cyhoeddus,” meddai Beti-Wyn James.

“Ar y naill law, mae dicter tuag at rai gwleidyddion ac eraill yr honnir eu bod wedi diystyru rheoliadau gwrth-Covid, ac ar y llaw arall dicter gan, ac yn erbyn, y rhai sy’n gwrthwynebu’r rheoliadau hynny.

“Ganwyd Crist i gymodi rhwng Duw a dynoliaeth, ac mae gwir angen yr ysbryd hwnnw o gymod, goddefgarwch a chariad  yn ein cymdeithas y Nadolig hwn.

“Roedd bywyd a marwolaeth Iesu yn un o hunanaberth llwyr. Mae pobl ddi-ri wedi aberthu cymaint yn ystod y pandemig hwn – ac yn dal i wneud.

“Mae’n amhosibl mesur maint ein diolch i staff y Gwasanaethau Iechyd a Gofal, a gweithwyr hanfodol eraill, am iddynt fynd yr ail filltir a mwy yn ystod y cyfnod hwn – sydd heb gynsail yn ein bywydau ni.

“Wrth i’r argyfwng barhau a dyfnhau mae galw arnom i aberthu ein hagweddau a’n gweithredoedd ein hunain er lles pawb.

“Os oes gennym gonsyrn a chariad gwirioneddol tuag at bobl eraill, yna mae gennym gyfrifoldeb personol i gymryd pob cam posibl i helpu i atal lledaeniad y feirws ofnadwy yma, yn y gobaith y byddwn yn rhydd o’r hunllef hon erbyn y Nadolig nesaf.

“Yn y cyfamser, rwy’n dymuno Nadolig hapus a diogel i bawb, gan weddïo am Flwyddyn Newydd Well i ni gyd yn 2022.”

Dyma FIDEO o Neges Nadolig Llywydd yr Annibynwyr: