Mae Swyddfa’r Met wedi proffwydo y bydd ambell ran o Brydain yn cael eira ar ddiwrnod Nadolig, wrth i’r tymheredd syrthio.
Y darogan yw y bydd eira yn Eryri ar y diwrnod mawr, ac ar Ddydd San Steffan, ac mae’r tywydd oer i fod i bara am dridiau.
Mae’r proffwydi tywydd hefyd yn rhagweld glaw trwm yn y de, ac yn galw ar yrwyr sy’n teithio i weld teulu a ffrindiau ar ddydd Dolig i gymryd gofal.
Ond er yr eira ar Eryri, mae Swyddfa’r Met yn dweud y bydd y rhan fwyaf o wledydd Prydain yn mwynhau tywydd brafiach nag arfer eleni.