Mae tân enfawr ar long oedd yn cario 800 o bobol wedi lladd 39 ac anafu 72 arall.

Bu i nifer o deithwyr neidio i ddyfroedd iasoer er mwyn dianc rhag y fflamau ar y llong ym Mangladesh.

Fe gymrodd hi ddwy awr i 15 injan dân reoli’r tân ac wyth awr arall i oeri’r llong.

Fe gydiodd y tân am dri’r bore pan oedd nifer o’r teithwyr yn cysgu, ac ar daith i weld eu teuluoedd dros y penwythnos.

“Roeddwn yn cysgu ar y dec a chefais fy neffro gan sgrechfeydd a sŵn mawr,” meddai un o’r rhai wnaeth oroesi, Anisur Rahman.

“Wnes i neidio i’r dyfroedd rhewllyd yn yr afon, a hithau yn niwl trwchus, fel sawl teithiwr arall, a nofio i lan yr afon.”

Mae llongau mawr yn ffordd boblogaidd o deithio ym Mangladesh, ac roedd yr un yma yn teithio o’r brifddinas Dhaka, i Barguna, rhyw 155 o filltiroedd i’r de.

Aeth y llong ar dân tua diwedd ei siwrne, yn rhanbarth Jhalokati, ac mae’r llywodraeth yn cynnal dau ymchwiliad.

Ym mis Ebrill, bu farw 25 o bobol ar ôl i long fawr daro llong arall a throi drosodd ger Dhaka.