Bydd y rhaglen frechu Covid-19 yng Nghymru yn cael ei rhoi ar stop dros benwythnos Dydd y Nadolig a Dydd San Steffan.
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai brechu yn ailddechrau fel yr arfer ddydd Llun, 27 Rhagfyr, wrth iddyn nhw geisio sicrhau bod pawb dros 18 yn derbyn trydydd dos cyn gynted â phosib.
Fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi y byddai pob oedolyn cymwys yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd y flwyddyn mewn ymateb i fygythiad cynyddol yr amrywiolyn Omicron.
Er nad yw’r amrywiolyn hwnnw mor niweidiol ag oedd yn cael ei gredu gynt, mae’n cael ei drosglwyddo’n haws nag amrywiolion eraill, gydag un swyddog iechyd wedi rhybuddio ei fod yn gallu “osgoi rhai o’n hamddiffynfeydd imiwnedd.”
Erbyn hyn, mae 1,490,668 wedi derbyn dos atgyfnerthu o’r brechlyn Covid-19, sydd bron i 60% o’r niferoedd sydd wedi derbyn o leiaf un dos.
Achosion yn torri record
Mae testun pryder arall i Lywodraeth Cymru sy’n ymestyn y tu hwnt i’r rhaglen frechu, sef y cyfraddau Covid-19 ar hyn o bryd.
Fe gafodd y nifer dyddiol uchaf o achosion ers dechrau’r pandemig eu cofnodi heddiw (dydd Gwener, 24 Rhagfyr), wrth i 6,755 achos newydd gael eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhybuddion y gallai gwasanaethau yng Nghymru fod o dan straen sylweddol os yw achosion yn parhau i gynyddu ac yn enwedig os yw pobol yn cael eu heintio gan yr amrywiolyn Omicron, sydd â threfn hunanynysu mwy llym.
Bydd cyfyngiadau ar niferoedd sy’n gallu cwrdd yn gyhoeddus, gan gynnwys y rheol chwe unigolyn mewn lleoliadau penodol, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
Mae torfeydd mewn digwyddiadau chwaraeon wedi eu cyfyngu hefyd, gyda hyd at 50 o bobol yn cael gwylio gemau lleol, ond bydd gemau mawr yn cael eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.
Ni fydd mwy na 30 o bobol yn cael ymgynnull mewn digwyddiad dan do, ac ni fydd mwy na 50 yn cael ymgynnull yn yr awyr agored.
Er hynny, bydd dim cyfyngiadau ar gymdeithasu yn breifat, gan gynnwys mewn cartrefi a lletyau gwyliau.