Mae Cymru wedi recordio ei nifer uchaf o achosion Covid mewn diwrnod.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 4,662 o achosion newydd o’r feirws wedi ei recordio ddydd Mercher 22 Rhagfyr, ynghyd â thair marwolaeth.

Mae 301 achos newydd o’r amrywiolyn Omicron hefyd wedi eu cadarnhau gan fynd â’r cyfanswm ar gofnod i 941 o achosion.

Cyfanswm yr achosion o’r coronafeirws ar gofnod yng Nghymru bellach yw 566,995, gyda nifer y marwolaethau yn 6,525.

Daw hyn wrth i Mark Drakeford amlinellu cyfyngiadau Covid newydd fydd yn dod i rym o 6am ar Ŵyl San Steffan yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 2 o Ddydd San Steffan;
  • Rheol 6 mewn tafarndai a bwytai;
  • Gwasanaeth bwrdd/Olrhain cysylltiadau;
  • Masgiau mewn tafarndai/bwytai;
  • Dim digwyddiadau mawr y tu mewn nac yn yr awyr agored;
  • Hyd at 30 o bobl dan do/hyd at 50 y tu allan.

Omicron

Amrywiolyn Delta yw prif amrywiolyn Cymru o hyd, ond Omicron yw’r amrywiolyn pennaf yn Lloegr a’r Alban bellach.

Mae 89 o achosion sydd wedi eu recordio ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a 77 achos ym mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae 53 o achosion yng Nghwm Taf Morgannwg, 28 ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, a 24 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.

Mae’r niferoedd yn is ym Mhywys (14 achos), ac yn y Gorllewin gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn nodi 16 achos.

Roedd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio nad yw hyn yn adlewyrchiad llwyr o’r niferoedd sydd wedi ei cofnodi heddiw (Rhagfyr 22).

Cyfraddau Covid-19 diweddaraf fesul ardal awdurdod lleol

Isod wele ddiweddariad dydd Mercher (22 Rhagfyr) am gyfraddau Covid-19 pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ragfyr 18, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 mewn prawf labordy.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Rhagfyr 19-22) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (850.4, i fyny o 708.4) o hyd.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 22 Rhagfyr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 18; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 18; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 11; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 11.

Ynys Môn, 850.4, (599), 708.4, (499)

Caerdydd, 816.4, (3014), 477.0, (1761)

Bro Morgannwg, 728.0, (985), 542.5, (734)

Sir y Fflint, 696.2, (1092), 561.7, (881)

Sir Fynwy, 670.4, (638), 487.6, (464)

Sir Ddinbych, 669.3, (647), 608.3, (588)

Abertawe, 656.2, (1618), 488.7, (1205)

Casnewydd, 635.4, (994), 544.0, (851)

Merthyr Tudful, 619.0, (374), 428.6, (259)

Wrecsam, 615.2, (837), 621.1, (845)

Rhondda Cynon Taf, 609.0, (1473), 422.1, (1021)

Pen-y-bont ar Ogwr, 604.6, (892), 576.8, (851)

Torfaen, 600.0, (569), 536.7, (509)

Castell-nedd Port Talbot, 576.9, (833), 450.9, (651)

Gwynedd, 571.2, (715), 588.0, (736)

Caerffili, 565.7, (1028), 471.0, (856)

Conwy, 536.5, (634), 425.6, (503)

Sir Benfro, 532.5, (675), 459.2, (582)

Blaenau Gwent, 497.0, (348), 425.6, (298)

Powys, 490.9, (653), 449.5, (598)

Sir Gaerfyrddin, 465.6, (885), 412.5, (784)

Ceredigion, 429.4, (313), 391.0, (285)

 

Llywodraeth San Steffan mewn “stad o barlys yn sgil rhaniadau mewnol” yn ôl Mark Drakeford

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru’r sylwadau wrth fanylu ar y mesurau Covid-19 newydd fydd yn dod i rym yng Nghymru ar ôl y Nadolig
AoS yn rhithwir yn y Senedd

Aelodau’r Senedd yn craffu ar gyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru

Jacob Morris

Plaid Cymru’n croesawu’r cyfyngiadau diweddaraf tra bod y Ceidwadwyr am weld mwy o dystiolaeth a “sgwrs genedlaethol ddifrifol” am fyw gyda’r feirws