Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r drosedd ‘methu gweithio gartref’.

Ers dydd Llun (20 Rhagfyr) mae’n bosib i weithwyr dderbyn ‘hysbysiad cosb dynodedig’ o £60 am dorri’r rheol “heb esgus rhesymol”, a gall cwmnïau gael eu taro â dirwyon o £1,000.

Cyn hynny, roedd yr anogaeth i weithio gartref ar ffurf canllawiau.

Yn ôl Llefarydd Economi Plaid Cymru, Luke Fletcher, dydy Aelodau o’r Senedd heb gael y cyfle i bleidleisio ar y rheoliadau hyn.

“Rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth gan bobl sy’n poeni am dorri’r gyfraith yn anfwriadol,” meddai’r AoS dros Orllewin De Cymru ar lawr y Senedd, “beth fyddai’n ei ddweud wrth rywun sydd wedi ysgrifennu ataf gyda’r pryderon hynny, nad ydynt yn deall ystyr ‘esgus rhesymol’. Sut y gallant ddeall hynny a chymryd y camau priodol ar gyfer gweithio gartref?”

Ychwanegodd: “[Mae] meddwl bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng cyflogwr a gweithiwr… yn naïf, a gall unrhyw un sy’n gweithio mewn swydd isafswm cyflog ddweud wrthych ble mae’r pŵer gwirioneddol,”

Yn nes ymlaen, dywedodd: “Nid yw’r berthynas rhwng cyflogwyr a’u gweithwyr yn gytbwys, ac eto mae gennym sefyllfa lle gallai cyflogwyr orfodi eu gweithwyr yn ôl i’r gwaith – a’r gweithwyr yn cael y ddirwy!”

Fe wnaeth AoS Llafur dros Gaerffili, Hefin David hefyd feirniadu’r rheoliadau newydd.

“Stori heb sylwedd”

Yn ei gynhadledd i’r wasg, dywedodd Mark Drakeford fod hyn yn “stori heb sylwedd”, a bod y cyfyngiadau newydd ar weithio mewn swyddfeydd “yn amddiffyn gweithwyr, nid eu cosbi.”

“Mae’r rheolau sy’n cael eu cyflwyno’r un fath â’r rhai oedd gennyn ni yn gynharach yn y pandemig,” meddai.

“Dydyn nhw ddim yn set newydd o reolau, maen nhw wedi eu cynllunio i amddiffyn gweithwyr, nid eu cosbi nhw.

“Cafodd dim un ddirwy ei chyflwyno pan roedd y rheolau hyn mewn grym o’r blaen.

“Maen nhw yna i wneud yn siŵr bod gweithwyr yn gallu cyfeirio cyflogwyr afresymol, sy’n disgwyl iddyn nhw fod yn y gweithle pan maen nhw’n gallu gweithio o adref, at y rheolau sy’n gwneud hynny’n anghyfreithlon.

“Pan oedden nhw mewn grym yn gynharach yn y pandemig, fe wnaethon nhw weithio’n dda iawn. A byddan nhw’n gweithio’n dda iawn eto.”

Dylestwydd newydd

Ond nid yw Luke Fletcher AoS yn cytuno.

Yn siarad ar ôl y ddadl yn y Senedd, dywedodd: “Mae’r Prif Weinidog wedi honni bod y rheoliadau hyn yn ailadrodd deddfwriaeth y cytunwyd arni’n flaenorol, ond rydym bellach yn deall bod hon yn ddyletswydd newydd a osodir ar unigolion.

“Nid yw aelodau’r Senedd wedi pleidleisio ar y rheoliadau newydd hyn. Os nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu neu’n amharod i ddileu’r rhan hon o’r rheoliadau, yna rhaid rhoi’r cyfle ar fyrder i Aelodau’r Senedd.”

TUC Cymru

Ddoe (Rhagfyr 21) fe ddywedodd TUC Cymru, nad ydi Llywodraeth Cymru wedi trafod y rheoliadau newydd gydag undebau llafur, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y rheoliadau’n cael eu dileu.

Ond honnodd y Prif Weinidog, yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol heddiw, fod Undebau bellach yn cefnogi’r Llywodraeth.

“Os oes angen cyngor ar bobl yn eu hamgylchiadau unigol eu hunain, yna fy nghyngor iddynt bob amser fyddai sicrhau eu bod yn aelod o undeb llafur a gallant gael y cyngor y bydd yr undeb llafur hwnnw’n ei ddarparu,” meddai Mark Drakeford.

“Rwy’n ddiolchgar iawn am yr awgrym gan gyflogwyr a’r mudiad undebau llafur y byddent i gyd yn anfon cyngor i’w haelodau’r prynhawn yma i’w gwneud yn glir eu bod yn ystyried bod y rheoliadau’n ddefnyddiol, ar yr amod eu bod yn cael eu deall a’u defnyddio’n briodol, ac yn y modd y bwriadwyd eu defnyddio.”

Ond dywedodd TUC Cymru ar eu cyfrif Twitter: “Yn dilyn cyhoeddiad Covid Llywodraeth Cymru, roeddem yn falch o glywed am newid cyfrifoldeb pendant yn ôl i gyflogwyr am gadw gweithwyr yn ddiogel.

“Ond … rydym yn pryderu bod y ddirwy i weithwyr sy’n torri rheolau gweithio gartref yn parhau mewn grym.

“Gyda’r newidiadau a gyhoeddwyd a’r cynnydd yn lefel rhybudd Covid yng Nghymru, bydd yn rhaid i gyflogwyr ailedrych ar eu hasesiadau risg a gwneud popeth o fewn eu gallu i alluogi staff i weithio gartref.

“Ni allant orfodi staff yn ôl i weithleoedd anniogel.”

Pryder difrifol

Mae Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AoS, hefyd wedi dweud bod esboniad y Prif Weinidog yn parhau’n aneglur, ac y dylid gollwng y ddarpariaeth yn y rheoliadau ar unwaith.

“Nid ‘gohebiaeth ddi-fudd’ yw’r pryder ynghylch y ddirwy hon, ond yn hytrach pryder difrifol nad yw’r Llywodraeth yn cydnabod y deinameg pŵer rhwng gweithwyr a chyflogwyr,” meddai.

“Nid yw’n berthynas gyfartal ac ni fydd llawer iawn o bobol yn teimlo’n gyfforddus yn gorfod herio eu cyflogwr na wynebu dirwy.

“Rwy’n ymuno â gweithwyr ac undebau ledled Cymru unwaith eto i annog Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru i ollwng y dirwyon hyn sydd wedi’u hanelu at weithwyr.”

“Sioc a phryder” ynghylch dirwyon posib i weithwyr nad ydyn nhw’n gweithio o’u cartrefi

Ers ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20), mae hi’n bosib i weithwyr sy’n gallu gweithio o’u cartrefi ond sy’n gwrthod gwneud hynny dderbyn dirwy o £60